Mae prifysgolion yng Nghymru’n wynebu toriadau wedi i’w grantiau ostwng.
Mae’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi cyhoeddi gostyngiadau i’r grantiau sydd yn cael eu rhoi i brifysgolion ar draws Cymru.
Cyhoeddwyd bod y cyllid sydd yn cael ei roi i’r Cyngor yn cael ei dorri o £220m yn 2023/24 i £197m am y cyfnod 2024/25.
Llywodraeth Cymru sydd â’r cyfrifoldeb dros osod cyllideb y Cyngor, ond y Cyngor sydd yn penderfynu sut mae’r arian yn cael ei ddosbarthu i brifysgolion Cymru.
Mae prifysgolion Cymru’n wynebu’r toriadau isod i’w grantiau:
- Aberystwyth (-£1.1m)
- Bangor (-£0.6m)
- Caerdydd (-£3.7m)
- Caerdydd Met (-£0.4m)
- Prifysgol Agored (-£1m)
- Abertawe (-£2.4m)
- Prifysgol De Cymru (-£1.2m)
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (-£0.8m)
- Wrecsam (-£0.3m)
‘Colli swyddi’n anochel’
Dywed yr Athro Richard Wyn Jones ar X ei bod hi’n “anochel y bydd mwy o swyddi’n cael eu colli” o ganlyniad i’r penderfyniad.
“Mae pob prifysgol yng Nghymru o dan bwysau aruthrol – yn bennaf oherwydd y ffaith bod ffioedd wedi bod yn statig am dros ddegawd a bod costau wedi bod yn tyfu yn gyflym iawn.
“Felly mae pob un [o’r prifysgolion] yn torri costau ac yn gollwng swyddi drwy ddulliau amrywiol – efo, yn anffodus, colled swyddi gorfodol. Grim.”
Mae’r effaith ar ddysgu hefyd yn debygol o ddod i’r amlwg, gyda newyddiadurwr i NationCymru yn sôn ar X am ei thristwch bod cwrs newyddiaduraeth Prifysgol De Cymru yn dod i ben y flwyddyn hon.
Codi cap ffioedd myfyrwyr
Mae’r gostyngiad mewn grantiau yn ergyd bellach i brifysgolion, sydd wedi cael eu heffeithio gan amryw o benderfyniadau diweddar.
Ym mis Chwefror, fe wnaeth Jeremy Miles, y cyn-Weinidog Addysg, gyhoeddi bod y cap ar ffioedd dysgu yn codi o £9,000 i £9,250 i helpu efo’r toriadau i gyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Hyd yn oed efo’r cynnydd, oherwydd chwyddiant, mae £9,250 werth llai na £6,000 mewn termau go iawn o gymharu â degawd yn ôl.
O’r naw prifysgol yng Nghymru, ni wnaeth pedair roi gwybod i fyfyrwyr sydd eisoes yn y brifysgol bod ganddyn nhw’n hawl i godi’r ffi yn ystod eu cwrs. Mae hyn yn golygu nad yw’r cynnydd yn y cap yn berthnasol i fyfyrwyr sydd ym mhrifysgolion Bangor, De Cymru, y Drindod Dewi Sant na’r Brifysgol Agored ar y funud.
Yn y prifysgolion yma, bydd rhaid iddyn nhw godi eu ffioedd wrth i fyfyrwyr ddechrau, sydd yn golygu eu bod nhw am fethu allan ar filiynau o bunnoedd.
Un o benderfyniadau olaf y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan oedd gwneud hi’n anoddach i fyfyrwyr o dramor dderbyn fisa hirdymor drwy astudio yn y Deyrnas Unedig.
I nifer o brifysgolion, arian gan fyfyrwyr tramor oedd yn cael ei ddefnyddio i gydbwyso’u cyllidon.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru bod y “gostyngiad yn dod ar amser pan mae prifysgolion yng Nghymru yn wynebu rhai o’r amgylchiadau ariannol mwyaf brys ac anodd mewn cof diweddar”.
“Does yna ddim sgôp i brifysgolion i gynnal unrhyw doriadau pellach yn y dyfodol agos,” medd y llefarydd wrth WalesOnline.
‘Cydnabod pwysau ariannol’
Er i golwg360 ofyn am gyfweliad efo’r Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi ddim ar gael gan mai penderfyniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw sut i ddarparu’r £197m.
“Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol ar sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig. Gan fod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, maen nhw’n rheoli eu cyllidebau mewn amrywiaeth o ffyrdd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.
“Mae prifysgolion yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch addasu ffioedd dysgu ar sail telerau ac amodau eu contractau gyda myfyrwyr ac ymgeiswyr, ac fe gawson nhw wybod cyn gynted â phosibl unwaith roedd Gweinidogion wedi penderfynu codi lefel y terfyn ffioedd.”
‘Adlewyrchu cyllideb Llywodraeth Cymru’
Dywed llefarydd ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru bod y gostyngiad yn y cyllid gaethon nhw’n adlewyrchu’r gostyngiad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.
“Does dim newid wedi bod i’r model ariannu sy’n cael ei ddefnyddio i ddyrannu cyllid.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Brifysgolion Bangor, Prifysgol De Cymru a’r Drindod Dewi Sant.