Rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar ffermwyr wrth addasu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, medd un undeb amaethyddol.
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi dadansoddiad o’r ymgynghoriad ar y cynllun dadleuol, a’u hymateb iddo.
Dros y misoedd diwethaf, mae’r cynigion ar gyfer y cynllun wedi bod yn destun protestiadau a gwrthwynebiad gan amaethwyr.
Derbyniodd y Llywodraeth Cymru dros 12,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gyda phryderon am gymhlethdod y cynllun yn dod i’r amlwg.
Roedd yr ymatebion yn dangos awydd ymysg ffermwyr i ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd, gwrthwynebiad clir i’r gofynion plannu coed yn y cynllun gwreiddiol, a’r straen ychwanegol fyddai’r cynllun yn ei roi ar ffermwyr.
Yn sgil y gwrthwynebiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod oedi pellach i’r cynllun cymorthdaliadau newydd ym mis Mai.
‘Deall pryderon’
Yr wythnos hon, mae Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, wedi dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynghylch dyluniad y cynllun eto.
“Rydym wedi clywed ac yn deall y pryderon a godwyd yn y broses ymgynghori, ac mae’n amlwg y bydd angen newid y Cynllun cyn y bydd yn barod ar gyfer ei fabwysiadu,” meddai.
“Ac rwyf wedi bod yn glir mai dim ond pan y bydd yn barod y bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno.”
‘Newid mwyaf sylweddol’
Dywed undeb NFU Cymru eu bod nhw’n falch o fod wedi bod yn rhan o’r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, a’u bod nhw’n cydnabod y gwaith sydd wedi’i wneud.
“Dyma’r newid mwyaf sylweddol i bolisi amaethyddol mewn cenhedlaeth,” meddai Aled Jones, Llywydd NFU Cymru.
“Rydyn ni’n dweud yn glir na ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy nes mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad economaidd-gymdeithasol cyflawn ar effaith y cynigion ar ffermio yng Nghymru, cymunedau gwledig a’r gadwyn gyflenwi.
“Rhaid i’r rhaglen newydd ddarparu’r un lefel o sefydlogrwydd i ffermio, y gadwyn gyflenwi a’r Gymru wledig â’r trefniadau presennol.”
‘Anwybyddu’n barhaus’
Wrth ymateb, dywed James Evans, llefarydd Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, bod canlyniadau’r ymgynghoriad yn cynnwys safbwyntiau “sydd wedi cael eu hanwybyddu’n barhaus gan Lywodraeth Cymru”.
“Mae ffermwyr wedi ymateb yn negyddol i orgymhlethdod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dydyn nhw ddim eisiau cael eu gorfodi i gyflawni targedau amgylcheddol ac maen nhw’n teimlo y dylen nhw dreulio’u hamser yn cynhyrchu bwyd yn hytrach na neidio drwy gylchoedd llywodraethol.”
‘Gweithio gyda’n gilydd’
Ychwanega Huw Irranca-Davies ei fod yn gwybod bod hwn wedi bod yn “gyfnod ansicr i lawer o ffermwyr a’u teuluoedd”.
“Byddwn yn parhau i weithio’n gyflym i lunio’r Cynllun terfynol er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl.
“Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru am genedlaethau i ddod.”