Mae cynghorwyr yng Nghaerfyrddin wedi beirniadu cynlluniau i redeg llai o drenau ar un o reilffyrdd gorau Ewrop, ac yn poeni y gallai hynny effeithio ar ddyfodol hirdymor y lein.
Mae rheilffordd Calon Cymru’n mynd o Abertawe i Lanelli ac yna’n mynd fyny am y gogledd. Teithia’r rheilffordd 121 milltir drwy Sir Gaerfyrddin, Powys a Sir Amwythig, gan ddod i ben yn yr Amwythig, ac mae hi’n boblogaidd â thwristiaid a phobol leol.
Eisoes mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n cwtogi’r gwasanaeth o bum trên y dydd i bedair o fis Rhagfyr eleni, a chael gwared ar ddau wasanaeth hwyr i Lanymddyfri a Llandrindod.
Dywed Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw’n ystyried opsiynau i gyflwyno bysus.
‘Llwybr peryglus’
Mae’r cynnig, gafodd gefnogaeth cynghorwyr Sir Gaerfyrddin, yn dweud bod Lein Calon Cymru wedi dioddef degawdau o danariannu, ac y gallai hyn niweidio ei dyfodol hirdymor.
Dywed y cynnig bod lefel y buddsoddiad i’r rheilffordd yn Sir Gaerfyrddin “yn cyferbynnu’n llwyr” â’r arian sy’n mynd tuag at dde-ddwyrain Cymru, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu penderfyniad Trafnidiaeth Cymru.
Teimlad y cynghorydd annibynnol Edward Thomas, wnaeth wneud y cynnig gyda’r Cynghorydd Andrew Davies, oedd bod hyn yn “ddechrau llwybr peryg”.
“Mae trigolion sy’n byw ger y rheilffordd yn dioddef oedi, trenau’n cael eu canslo, dim bysus yn rhedeg yn lle’r trên a diffyg gwybodaeth.”
Golyga hyn bod pobol yn methu eu trenau ymlaen, meddai.
Dywedodd hefyd mai ar ychydig iawn o ddyddiau dros y pum mis diwethaf y mae’r holl drenau wedi bod ar amser. Yn ôl un o’i etholwyr mae’r trenau “dros 40 mlwydd oed ac â record wael”.
Ychwanegodd y Cynghorydd Edward Thomas bod Stuart Cole, yr athro a’r ymgynghorydd trafnidiaeth o Brifysgol De Cymru, wedi mynegi pryderon am leihau’r gwasanaeth a bod grŵp teithwyr Lein Calon Cymru’n lobïo dros wrthdroi’r penderfyniad.
‘Mwy o arian at wasanaethau’
Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo y byddai 30% yn fwy o wasanaethau rheilffordd yn y wlad erbyn 2025 o gymharu â 2018, medd y Cynghorydd Llafur Kevin Madge – gyda £800m yn cael ei wario ar drenau newydd.
“Mae mwy o arian wedi mynd tuag at wasanaethau,” meddai.
Cafodd £125m pellach ei roi tuag at Drafnidiaeth Cymru hydref y llynedd, ychwanega.
Yn ôl y Cynghorydd Madge, mae Cymru wedi derbyn 1.5% o fuddsoddiad rheilffyrdd y Deyrnas Unedig gan San Steffan, er bod ganddi 5% o’r boblogaeth, tra bo’r Alban – gyda 8% o’r boblogaeth – wedi cael 8% o’r buddsoddiad.
Dywedodd y byddai’r cynnig yn cael cefnogaeth cynghorwyr Llafur oherwydd pwysigrwydd Lein Calon Cymru yn yr ardal, ond dywedodd bod angen fformiwla ariannu deg a’i fod yn gobeithio y bydd pethau’n gwella nawr bod yna lywodraeth Lafur yn Llundain.
Dywedodd y Cynghorydd Deryk Cundy, arweinydd y grŵp Llafur, nad oes neb eisiau colli’r rheilffordd.
“Ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n deall eu bod nhw am ei hymestyn – dw i ddim yn gwybod beth sydd wedi newid.”
‘Cael mwy o bobol ar drenau’
Dywedodd y cynghorydd annibynnol Rob James bod rhaid i drenau fod yn ddibynadwy, fforddiadwy a chyson, a bod llai o wasanaethau’n golygu llai o deithwyr.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gynyddu’u gwasanaethau, cael mwy o bobol ar drenau a gwneud dylanwad ar yr agenda newid hinsawdd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Lenny, o Blaid Cymru, nad yw Cymru’n cael ei hariannu’n ôl ei hanghenion.
“Nes ein bod ni’n cael grym yng Nghymru dros ynni ac adnoddau naturiol, mae gen i ofn mai ychydig iawn fydd yn newid.”
Mae Rheilffordd Calon Cymru wedi cael ei henwi gan y Lonely Planet fel un o’r deg siwrne trên orau yn Ewrop.
‘Cydbwysedd’
Fe wnaeth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Lleol gysylltu â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, wnaeth gyfeirio at y cyhoeddiad ym mis Ebrill i leihau nifer y gwasanaethau ar y rheilffordd – penderfyniad wnaeth ystyried galw teithwyr. Mae adolygu’r amserlen hefyd yn arwain at fwy o wasanaethau a threnau hirach ar ambell daith.
“Mae’r amserlenni newydd arfaethedig yn rhoi mwy o wytnwch i ni dros gyfnod y gaeaf ac yn cwrdd â’r newidiadau yn y galw ers Covid,” meddai Colin Lea, cyfarwyddwr cynllunio a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru ar y pryd.
“Mae bron bob gwasanaeth sy’n cael ei rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru angen cymhorthdal cyhoeddus, ac fel darparwyr cyfrifol mae’n hollbwysig bod Trafnidiaeth Cymru’n cydbwyso’r angen am wasanaethau cyson a dibynadwy gyda’r arian sydd ar gael fel bod trethdalwyr yn cael gwerth eu harian a thrafnidiaeth fwy cynaliadwy.”