Mae gwefan NationCymru wedi dweud nad Hannah Blythyn wnaeth ryddhau gwybodaeth iddyn nhw.
Fe wnaeth Vaughan Gething ddiswyddo’i Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol ym mis Mai gan ddweud bod ganddo dystiolaeth i ddangos ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i’r wasg.
Mae Hannah Blythyn wedi bod yn gwadu hynny ers y dechrau, ac ers iddi wneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth (Gorffennaf 9), mae’r Prif Weinidog wedi bod dan bwysau i ddangos y dystiolaeth.
Roedd wnelo’r cyhuddiad yn ei herbyn â stori gyhoeddodd NationCymru oedd yn datgelu bod Vaughan Gething wedi dweud wrth gydweithwyr yn y cabinet ei fod yn dileu negeseuon WhatsApp o gyfnod Covid-19 oherwydd y byddai’n rhaid eu dangos pe bai cais rhyddid gwybodaeth yn gofyn am eu gweld.
Dywedodd Vaughan Gething wrth y Senedd ddoe (Gorffennaf 10) bod tystiolaeth yn dangos bod y neges wedi dod o ffôn Hannah Blythyn.
“Ar ôl croeswirio’r llun gyda’r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg y gallai’r llun fod wedi dod o ffôn un aelod yn unig,” meddai Vaughan Gething ddoe.
Nawr, mae prif weithredwr NationCymru wedi dweud nad Hannah Blythyn oedd ffynhonnell y stori.
“Mae gwarchod ffynonellau’n bwysig iawn i bob newyddiadurwr ac rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif,” meddai Mark Mansfield.
“O ystyried y diddordeb cyhoeddus cryf yn y stori ac yn sgil pryder am lesiant Hannah Blythyn, rydyn ni wedi penderfynu mai’r peth iawn i’w wneud yw dweud yn gyhoeddus nad hi oedd ffynhonnell ein stori ac nad ydyn ni wedi bod mewn cysylltiad efo hi am y stori cyn nag ar ôl ei chyhoeddi.”
‘Mynd at wraidd y mater’
Wrth ymateb, dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei bod hi “bron yn amhosib coelio fersiwn y Prif Weinidog o’r digwyddiadau”.
“Yr wythnos nesaf, bydd Aelodau’r Senedd yn cael cyfle i fynd at wraidd hyn unwaith ac am byth drwy bleidleisio dros ein cynnig.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.