Mae mwy o bwysau ar Vaughan Gething i gyhoeddi’r dystiolaeth oedd yn gyfrifol am ei benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn, un o weinidogion ei gabinet.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig yn y gobaith o orfodi’r Prif Weinidog i gyflwyno’r dystiolaeth ddydd Mercher nesaf (Gorffennaf 17).
Fe wnaeth Hannah Blythyn, y cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol, ddatganiad yn y Senedd ddydd Mawrth (Gorffennaf 9) yn dweud na chafodd weld y dystiolaeth cyn cael ei diswyddo.
Yn eu cynnig, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn i’r Prif Weinidog gyflwyno’r dystiolaeth, gan wneud addasiadau er mwyn amddiffyn unrhyw dystion sydd ynghlwm â’r sefyllfa.
Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
Cafodd Hannah Blythyn ei diswyddo o’i swydd yn y Llywodraeth ym mis Mai ar ôl iddi gael ei chyhuddo gan Vaughan Gething o ryddhau neges destun i Nation Cymru.
Yn y neges destun, mae’r cynnwys yn awgrymu bod Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, yn dweud ei fod wedi bod yn dileu negeseuon oherwydd y posibilrwydd iddyn nhw gael eu rhyddhau o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth.
Dywedodd mewn rhan o’r Archwiliad Covid yn gynharach yn y flwyddyn nad oedd wedi dileu negeseuon yn ystod y pandemig.
Mae Hannah Blythyn wedi gwadu’r cyhuddiad ers iddi gael ei diswyddo.
Yn ei datganiad i siambr y Senedd ddydd Mawrth, fe wnaeth Hannah Blythyn ailadrodd nad ydy hi “erioed wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth na briffio’r cyfryngau” am unrhyw Aelod Seneddol.
Dywedodd hefyd bod ganddi “bryderon nad oes gwersi wedi eu dysgu o’r gorffennol,” ynglŷn â sut gafodd y broses diswyddo ei gweithredu.
‘Torri’r ymddiriedaeth’
Wrth ymateb i gwestiwn amserol gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ddoe (Gorffennaf 10), dywedodd Vaughan Gething bod y dystiolaeth yn glir.
“Ar ôl croeswirio’r llun gyda’r set lawn o negeseuon, daeth yn amlwg y gallai’r llun fod wedi dod o ffôn un aelod yn unig,” meddai.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod hyn wedi “torri’r ymddiriedaeth” sy’n “hanfodol” rhwng gweinidogion.
Ysgwydodd Hannah Blythyn, oedd yn eistedd y tu ôl i Vaughan Gething, ei phen wrth iddo siarad.
Galwodd arweinwyr y gwrthbleidiau, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, am ragor o fanylion.
“A fyddwch chi yn cyhoeddi’r dystiolaeth yr ydych wedi seilio eich barn arni?” meddai Andrew RT Davies.
“Oherwydd yn amlwg, er gwaethaf yr hyn rydych chi wedi ei ddweud heddiw, mae dau adroddiad gwrthgyferbyniol o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod y bennod anffodus hon.”
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth: “Mae gyda ni ddwy fersiwn sylfaenol wahanol o’r un digwyddiadau.
“Y Prif Weinidog yn dweud bod y dystiolaeth yn glir yn ei feddwl, ac mae gennym aelod yn ei gwneud yn glir iawn, iawn ei bod hi’n gwadu hynny.”
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn hapus i rannu’r dystiolaeth os yw’r aelodau arall sydd yn y neges destun yn hapus i wneud hynny.
Serch hynny, os bydd cynnig y Ceidwadwyr yn pasio, efallai y bydd rhaid iddo ryddhau’r dystiolaeth o ganlyniad i ran o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd yn rhoi’r pŵer i’r Senedd orchymyn Prif Weinidog i ryddhau tystiolaeth sy’n berthnasol i weithredoedd Gweinidogion y llywodraeth.
Byddai pasio’r cynnig ynddo’i hun ddim yn ddigon i’w orfodi i gyhoeddi’r dystiolaeth.
Ar y cynnig, dywedodd Andrew RT Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Unwaith eto, am na fydd yn cynnig unrhyw atebion o’i wirfodd, mae’n rhaid llusgo’r Prif Weinidog gan gicio a sgrechian i’r Senedd.
“Mae’r Prif Weinidog yn disgwyl i ni gymryd ei air fod ganddo’r dystiolaeth i ddiswyddo Hannah Blythyn, ond yn anffodus, diolch i’w ymddygiad yn y swydd, ni all pobol Cymru gymryd ei air.
“Mae’n bryd cael atebion, a gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â ni’r wythnos nesaf i bleidleisio o blaid tryloywder gan y llywodraeth.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.
Sylwadau gan ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen:
Yn sgil yr etholiad cyffredinol dros yr wythnosau diwethaf a sylw pawb tu allan i’r Senedd, mae’n siŵr bod VaughanGething wedi gobeithio bod y cyfnod anoddaf tu ôl iddo.
Ond ar ôl i HannahBlythyn ddychwelyd yn ôl i’r Senedd ar ôl bron i ddau fis i ffwrdd, does dim amheuaeth bod penderfyniadau’r Prif Weinidog yn destun craffu unwaith eto.
Mae’r dyfyniadau ganddi yn y siambr, ac iaith gorfforol nifer o aelodau eraill Llafur yno hefyd, yn arwyddocaol o blaid sydd ddim yn unedig ac yn teimlo’r straen sydd wedi bod yn amlwg o’r cychwyn o dan arweinyddiaeth VaughanGething.
Yn debyg i’r bleidlais diffyg hyder ar ddechrau mis Mehefin, mae disgwyl y bydd rhaid iddo dderbyn cefnogaeth ei blaid i gyd, a hynny’n cynnwys Hannah Blythyn, sydd yn edrych yn hynod o annhebygol. Os fydd yn parhau i wrthod cyflwyno tystiolaeth ar ôl pleidlais o’r fath, bydd cais gwrthbleidiau iddo ymddiswyddo yn cryfhau.