Mewn datganiad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 9), dywed Hannah Blythyn na chafodd weld unrhyw dystiolaeth cyn cael ei diswyddo.
Mae’r Aelod Llafur o’r Senedd dros Delyn yn galw am greu proses decach wrth ddiswyddo aelodau o’r llywodraeth er mwyn ceisio osgoi’r sgil effeithiau meddyliol mae hi wedi’u hwynebu dros y misoedd diwethaf.
Cafodd Hannah Blythyn, y cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol, ei diswyddo gan Vaughan Gething ym mis Mai, wedi i’r Prif Weinidog ei chyhuddo o ryddhau gwybodaeth i’r cyfryngau.
Cafodd ei chyhuddo o rannu negeseuon rhwng gweinidogion a ddatgelodd fod y Prif Weinidog wedi dileu negeseuon cyfnod Covid er mwyn osgoi deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth.
Mae Hannah Blythyn wedi gwadu hynny o’r dechrau, ac fe ategodd hynny heddiw.
Mae hi wedi bod i ffwrdd o’i gwaith a’i datganiad heddiw oedd y tro cyntaf iddi siarad yn y siambr ers ei diswyddo ym mis Mai.
Galw am broses briodol
Agorodd Hannah Blythyn ei datganiad trwy ddweud nad oedd yn “ddatganiad hawdd i’w wneud”.
Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi codi pryderon ffurfiol ynghylch y modd y cafodd ei diswyddo gan alw am broses mwy ffurfiol.
“Yn wir, bu adegau yn y gorffennol pan nad oeddwn yn siŵr a allwn i, neu a fyddwn i’n, siarad yn y Siambr eto,” meddai.
“Rwy’n gwybod y gallaf edrych ar fy holl gydweithwyr sy’n eistedd ar y meinciau hyn a dweud nad wyf erioed wedi rhannu gwybodaeth gyda, na briffio’r, cyfryngau am unrhyw un ohonoch.
“Yn wir, gallaf ddweud hynny am bawb yn y Siambr hon.
“Rwyf wedi codi pryderon yn ffurfiol am y broses y cefais fy niswyddo o’r llywodraeth, gan gynnwys peidio â chael gweld unrhyw dystiolaeth honedig cyn cael fy niswyddo, peidio â chael gwybod fy mod yn destun ymchwiliad erioed, ac ni chefais fy nghynghori ar unrhyw adeg y gallwn fod wedi torri cod y gweinidogion.
“Rwy’n parchu ac yn cydnabod yn llwyr bod gan unrhyw Brif Weinidog yr hawl i benodi a diswyddo aelodau o’u llywodraeth.
“Rwy’n codi pryderon nid allan o hunan-ddiddordeb, ond oherwydd fy mod yn sylfaenol yn credu mewn datganoli a gwasanaeth cyhoeddus.
“Mae gen i bryderon gwirioneddol hefyd nad yw gwersi wedi cael eu dysgu o’r gorffennol.
“Mae angen i broses briodol fod mewn lle nid yn unig ar gyfer urddas a pharch yr unigolion dan sylw ond hefyd i gynnal uniondeb y gwasanaeth sifil a swyddfa’r Prif Weinidog.”
‘Codi mwy o gwestiynau’
“Mae sylwadau Hannah Blythyn yn codi mwy o gwestiynau i’r Prif Weinidog,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mewn ymateb.
“Bydd pobol nawr yn gofyn a wnaeth y Prif Weinidog ddiswyddo Hannah yn gyhoeddus heb ddigon o dystiolaeth ei bod yn euog.
“Roedd canlyniadau personol Hannah o’r diswyddo hwnnw’n amlwg yn enfawr, ac mae’r Prif Weinidog yn ddyledus iddi ymddiheuriad llawn.”
‘Gwleidyddiaeth fwy caredig’
Aeth Hannah Blythyn ymlaen i fyfyrio ar effaith y diswyddo arni hi’n bersonol gan ddweud bod angen magu mwy o garedigrwydd rhwng y gwleidyddion yn y siambr.
“Rwy’n gwybod bod yna ddyfalu wedi bod am fy amgylchiadau ac a ydw i wedi bod yn ddigon da i weithio,” meddai.
“Mae hyn wedi amrywio o wybodaeth anghywir a’r hyn y gellir ei roi lawr i gamddealltwriaeth.
“Ni ddylai fod yn syndod bod yr hyn a ddigwyddodd wedi bod yn niweidiol iawn i mi ar lefel bersonol ac wedi arwain at bryder a straen acíwt.
“Dydw i erioed wedi bod i ffwrdd o’r gwaith o’r blaen ac rwyf wedi cael trafferth gyda hyn ynddo’i hun ond roedd yna bwynt pan oedd y syniad o roi fy nghamera ymlaen i bleidleisio a’ch gweld chi i gyd wedi cymryd fy anadl i ffwrdd.
“Rwy’n rhannu hyn nawr nid yn chwilio am gydymdeimlad ond oherwydd bod fy mhrofiad diweddar wedi gwneud i mi sylweddoli, er ein bod i gyd yn siarad am iechyd meddwl, mae mwy i’w wneud o hyd i wella ein dealltwriaeth a’r effaith y mae’n ei chael ar unigolion a’u gallu i wneud pethau y byddem fel arfer yn eu cymryd yn ganiataol.
“Yn anffodus, rwy’n credu weithiau ein bod ni’n ymgolli cymaint yn y wleidyddiaeth nad ydyn ni bob amser yn meddwl am y person.
“Rydyn ni wedi siarad yn aml yn y siambr hon am wleidyddiaeth fwy caredig ond allwn ni ddim cael gwleidyddiaeth fwy caredig heb bobol fwy caredig, a fyddwn ni ddim yn cael gwell gwleidyddiaeth heb fod yn bobol well.”