Yn dilyn ei hetholiad fel Aelod Seneddol newydd Ynys Môn, mae Llinos Medi wedi penderfynu camu o’i rôl fel Arweinydd Cyngor Môn.
Bydd grŵp rheoli’r Cyngor nawr o dan arweiniad Plaid Cymru yn mynd ati i gychwyn y broses o ddewis Arweinydd Cyngor newydd.
Yna, bydd aelodau’r Cyngor Llawn yn pleidleisio i gymeradwyo’r Arweinydd newydd.
Yn y cyfamser, bydd Dirprwy Arweinyddion y Cyngor, y Cynghorwyr Gary Pritchard a Robin Williams, yn ymgymryd â chyfrifoldebau blaenorol Llinos Medi fel Arweinydd.
“Chwarae rhan allweddol”
“Mae Llinos wedi chwarae rhan allweddol fel Arweinydd y Cyngor dros y saith mlynedd diwethaf – yn arwain y Cyngor, Pwyllgor Gwaith, a’r glymblaid,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams.
“Yn ystod y cyfnod yma mae perfformiad y Cyngor wedi gwella, ynghyd â’i enw da.”
“Mae gwerthoedd y Cyngor wedi bod yn amlwg a blaenllaw yn waith dydd i ddydd Llinos – sef parch, cydweithio, a gonestrwydd, wrth hyrwyddo’r Cyngor ac Ynys Môn.
“Ar lefel bersonol ni allaf fod wedi gofyn am fwy,” meddai.
Dywedodd ei fod hefyd yn ei “llongyfarch a dymuno’n dda iddi yn dilyn ei llwyddiant yn yr Etholiad Cyffredinol dydd Iau diwethaf.
“Ddoe, fe deithiodd i Lundain er mwyn cychwyn cynrychioli Ynys Môn fel ein haelod seneddol,” meddai.
Ychwanegodd, bydd eu gwaith dydd i ddydd o ddarparu gwasanaethau ar draws Ynys Môn yn parhau.
“Edrychaf ymlaen tuag at gydweithio a chryfhau fy mherthynas gyda’r Arweinydd newydd (unwaith wedi’i ddewis), ac wrth gwrs, gyda Llinos Medi fel Aelod Seneddol Ynys Môn.”
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma hefyd i ddymuno’n dda ar gyfer y dyfodol i’n cyn-Aelod Seneddol, Virginia Crosbie.”