Creu “dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, gryfach a gwyrddach” – dyna yw nod Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, meddai, wrth iddo rannu ei flaenoriaethau deddfwriaethol heddiw (dydd Mawrth, 9 Gorffennaf).
Mae’r rhannau o ddeddfwriaeth sydd i’w cyflwyno yn ystod weddill tymor y Senedd hon yn cynnwys camau i wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad, diogelu pobl a chymunedau, ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd, meddai Vaughan Gething.
‘Ymrwymiad i newid radical a thrawsnewidiol’
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae ein camau gweithredu blaenorol a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dangos ein hymrwymiad i newid radical a thrawsnewidiol ym mhob cwr o Gymru wrth inni ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y pethau pwysicaf ym mywydau pob dydd pobl.
“O ail-lunio’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn llwyr i ddiogelu ein seilwaith hanfodol ac amddiffyn yr amgylchedd, bydd ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at adnewyddu’r bartneriaeth, yng ngwir ystyr y gair, â Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac at barhau i weithio gyda’r Aelodau ar draws y Siambr hon wrth inni anelu at ddatgloi mwy o gyfleoedd ledled Cymru a sicrhau newid cadarnhaol a blaengar.”
Mae’r rhaglen yn cynnwys:
- Bil Bysiau, a fydd yn galluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i gynllunio un rhwydwaith bysiau cyd-gysylltiedig sy’n rhoi teithwyr cyn elw ac yn helpu pobl i beidio â defnyddio car ar gyfer pob taith.
- Bil Diogelwch Adeiladau, a fydd yn diwygio’r drefn diogelwch adeiladau sydd ohoni yng Nghymru yn sylfaenol ac yn mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr ac uwch sy’n rhan o’r stoc adeiladau sydd eisoes yn bod.
- Bil Tomenni Nas Defnyddir (Mwyngloddiau a Chwareli), a fydd yn diwygio cyfreithiau sydd wedi dyddio ynghylch diogelwch tomenni ac yn rhoi mwy o sicrwydd i’r bobl sy’n byw yn eu cysgod.
- Bil Digartrefedd, a fydd yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau sylweddol i helpu pobl yng Nghymru i aros yn eu cartrefi ac atal unrhyw un rhag profi digartrefedd.
- Bil Llety Ymwelwyr (Rheoleiddio), a fydd yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n gosod llety i ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr a gwella profiad ymwelwyr.
- Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth, sy’n dangos ein bod wedi ymrwymo o hyd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd drwy sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol statudol i Gymru a chyflwyno targedau cyfreithiol i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth.
- Bil i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn codi tâl ychwanegol bach ar ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, gan helpu i gefnogi twristiaeth gynaliadwy.
Yn ogystal, tua diwedd tymor y Senedd hon, bydd Bil yn cael ei gyflwyno i symleiddio a moderneiddio’r gyfraith gynllunio yng Nghymru. Dywedodd y Prif Weinidog fod y system bresennol yn “mynd yn fwyfwy anhygyrch a’i bod yn rhy gymhleth.”
Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Fil drafft Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat.