Mae cyffur sy’n cael ei ddefnyddio’n aml i drin soriasis yn effeithiol wrth helpu i drin plant a phobol ifanc gyda diabetes math-1, yn ôl ymchwil newydd.

Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae’r ymchwil yn dangos bod cyffur sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i drin soriasis, Ustekinumab, yn effeithiol wrth drin camau cynnar diabetes math-1 mewn plant a phobol ifanc.

Mae’r astudiaeth newydd wedi dangos bod Ustekinumab, imiwnotherapi sefydledig sydd wedi’i ddefnyddio i drin soriasis ers 2009, yn effeithiol wrth gadw gallu’r corff i gynhyrchu inswlin mewn diabetes math-1 – gan ddod â’r nod o reoli diabetes math-1 heb inswlin gam yn nes.

Cadw celloedd sy’n cynhyrchu inswlin

Profodd y treial clinigol y driniaeth soriasis mewn 72 o bobol ifanc rhwng 12 a 18 oed sydd â diabetes math-1 a ddechreuodd yn ddiweddar.

“Mae diabetes math-1 yn digwydd pan fydd system imiwnedd y corff yn ymosod ac yn dinistrio celloedd y corff sy’n cynhyrchu inswlin,” meddai Dr Danijela Tatovic o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

“Yn y pen draw, mae hyn yn gadael y person yn ddibynnol ar bigiadau inswlin.

“Mae ymchwilwyr bellach yn datblygu ffyrdd o arafu neu atal yr ymosodiad ar y system imiwnedd.

“Os oes modd dechrau triniaethau o’r fath yn gynnar, cyn colli’r holl gelloedd gwneud inswlin, gallai hyn atal neu leihau’r angen am inswlin.”

Mae ymchwilwyr yn gobeithio y bydd imiwnotherapi yn rhoi atebion i gleifion yn y dyfodol, gan dargedu system imiwnedd y corff i arafu’r broses o ddinistrio’r celloedd sy’n cynhyrchu inswlin.

Mae hyn yn trin y broses imiwnedd sylfaenol yn hytrach na chywiro lefelau inswlin.

Mae Ustekinumab yn driniaeth chwistrellu y gall cleifion ei rhoi i’w hunain gartref, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol i drin mwy na 100,000 o gleifion â chyflyrau imiwn, gan gynnwys soriasis difrifol, arthritis soriatig, clefyd Crohn difrifol a cholitis briwiol difrifol.

Dangosodd yr astudiaeth hon y gall Ustekinumab hefyd gadw celloedd hanfodol sy’n cynhyrchu inswlin.

‘Targedu’r celloedd sy’n peri trafferthion’

Nododd yr ymchwilwyr hefyd y celloedd imiwnedd penodol sy’n achosi’r dinistr hwn, gan alluogi therapïau manwl gywir ac wedi’u targedu i wneud y mwyaf o fuddion a lleihau sgîl-effeithiau.

“Rydyn ni wedi darganfod bod Ustekinumab yn lleihau lefel grŵp bach iawn o gelloedd imiwn yn y gwaed o’r enw celloedd Th17.1,” meddai’r Athro Tim Tree, Coleg y Brenin Llundain.

“Dim ond 1 o bob 1000 o gelloedd imiwnedd gwaed yw’r celloedd hyn, ond mae’n ymddangos eu bod nhw’n chwarae rhan bwysig wrth ddinistrio celloedd sy’n cynhyrchu inswlin.

“Mae hyn yn esbonio pam mae gan Ustekinumab cyn lleied o sgîl-effeithiau.

“Mae’n targedu’r celloedd sy’n peri trafferthion, tra’n gadael 99% o’r system imiwnedd yn gyfan – enghraifft wych o feddygaeth fanwl”.

“Fe wnaethon ni brofi’r driniaeth hon mewn plant a phobl ifanc oedd angen triniaeth inswlin yn barod,” meddai’r Athro Colin Dayan, Athro Clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

“Byddai’n well pe gallen ni eu trin yn gynharach, tra bod y plant yn iach o hyd a’u hatal rhag bod angen inswlin.

“Diolch byth, mae gan Ustekinumab hanes diogelwch digon da i gael ei ystyried ar gyfer plant yn y cyfnod cynnar hwn.”

Roedd canlyniadau defnyddio Ustekinumab yn dangos ei fod yn lleihau effaith ddinistriol celloedd imiwnedd Th17 ar gelloedd sy’n cynhyrchu inswlin.

Ar ôl 12 mis o ddefnyddio Ustekinumab, canfu’r ymchwilwyr fod lefelau C-peptid – arwydd bod y corff yn cynhyrchu inswlin – 49% yn uwch.

Mae’r treial clinigol hwn hefyd yn rhoi’r dystiolaeth glinigol gyntaf yn seiliedig ar brawf ar gyfer rôl celloedd Th17 mewn diabetes math-1.

Angen treialon pellach

Er bod y treial yn dangos budd defnyddio Ustekinumab i drin diabetes math-1, mae angen treialon clinigol pellach i gadarnhau’r canfyddiad hwn ac i sefydlu pa gleifion fyddai’n elwa fwyaf o’r driniaeth.

“Mae’n bosibl nawr gyda phrawf gwrthgyrff pigiad bys syml i ganfod plant a fydd yn datblygu diabetes math-1 flynyddoedd cyn bod angen inswlin arnyn nhw,” meddai Dr Peter Taylor o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd.

“Mae cyfuno sgrinio fel hyn â thriniaeth gynnar ag Ustekinumab yn ymddangos yn ddull addawol iawn o atal yr angen am inswlin.

“Bydd angen treialon pellach i gadarnhau hyn.”