Rhaid i’r Ceidwadwyr Cymreig gael “arweinydd penodol”, medd Andrew RT Davies eto ar ôl canlyniad siomedig i’w blaid yn yr Etholiad Cyffredinol.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yw teitl Andrew RT Davies, sy’n dweud bod angen meddwl eto am strwythur y blaid Gymreig.
Ar hyn o bryd, er bod yna arweinydd i grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, nid oes arweinydd penodol i Gymru.
Ni enillodd y blaid sedd yng Nghymru yn yr etholiad, a dros y Deyrnas Unedig fe wnaethon nhw golli 244 o seddi.
Ers etholiad y Senedd yn 2021, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig 11 sedd ym Mae Caerdydd.
Yn ôl Andrew RT Davies, rhaid ail-ystyried strwythur y Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig ar dop y blaid, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw fwy o “ddannedd” wrth ymgyrchu.
“Dw i wedi dweud ers niferoedd o flynyddoedd, i roi’r dannedd yna yn ymgyrchol ac i gael hunaniaeth gryfach, rhaid i ni gael arweinydd penodol yma yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.
“Ni yw’r unig blaid fawr sydd ddim efo’r rôl ddynodedig yna.
“Dw i’n edrych ymlaen at gael trafodaethau yn arwain at Senedd 2026 am sut i ddatrys hyn.”
‘Hunaniaeth Gymreig’
Mae’r alwad am arweinydd penodol i Gymru cyn etholiadau Senedd 2026 wedi cael ei adleisio gan aelodau fel y Cynghorydd Aled Thomas, ymgeisydd aflwyddiannus y blaid yng Ngheredigion Preseli.
Ym marn Andrew RT Davies, mae’r cwestiwn dros hunaniaeth bleidiol yn berthnasol i unrhyw blaid sydd hefyd yn llywodraethu yn San Steffan.
“Bydd Llafur Cymru yn gweld hi’n anodd rŵan efo’i hunaniaeth Gymreig oherwydd bod yna Lywodraeth Lafur yn San Steffan,” meddai.
“Rydyn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, wastad wedi cael DNA cryf, rydyn ni’n sgrifennu ein polisïau a’n maniffesto ar gyfer y Senedd ein hunain – ac rydyn ni’n falch o hynny.
“Ond mae’r un yn wir i unrhyw [blaid] sy’n ffurfio llywodraeth yn San Steffan – ym meddylfryd y cyhoedd, mae yna deimlad eich bod yn ‘blaid San Steffan’.
“Mi fyddan ni’n sefyll yn gadarn ar hunaniaeth Gymreig yn 2026, dw i’n glir ar hynny.”
“Noson greulon” i’r Ceidwadwyr
Dywed Andrew RT Davies bod nos Iau (Gorffennaf 4) yn “noson greulon” i’r Ceidwadwyr, a bod rhaid defnyddio’r amser fel gwrthblaid i “ddiwygio ac ail-fformiwleiddio”.
“Mi oedd hi’n noson greulon, yn enwedig yma yng Nghymru wrth ystyried bod ddim aelod seneddol Ceidwadol yn dychwelyd nôl i San Steffan,” meddai.
“Fe wnaeth 11% o bobol wnaeth bleidleisio yn 2019 [ledled y Deyrnas Unedig] ddewis peidio troi allan yn yr etholiad cyffredinol yma, sydd yn dangos pa mor anesmwyth yw’r gred sydd gan bobol yn eu gwleidyddion,
“Ac roedd yr anesmwythdod yn troi’n bleidlais i Reform mewn nifer o seddi.
“Dw i ddim yn diystyru’r ddadl honno, oherwydd mewn nifer o lefydd mae’r dadleuon hynny yn haeddu cael eu clywed.
“Ond be fyddwn yn ei ddweud yw taw’r blaid ddiwethaf wnaeth Nigel Farage arwain oedd UKIP, wnaeth frwydro etholiad y Senedd yn 2016, ac fe wnaethon nhw syrthio’n filoedd o ddarnau o fewn mis!
“Ac yn wir, roedd un o ymgeiswyr Reform y tro hwn, a fu’n gyn-arweinydd i UKIP yng Nghymru, Caroline Jones, wedi sefyll dros bum plaid arall dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.”
Bu Caroline Jones yn Aelod o’r Senedd UKIP rhwng 2016, a chyn hynny bu’n ymgeisydd i’r Ceidwadwyr Cymreig. Ar ôl i UKIP chwythu’i blwc, bu’n aelod o Blaid Brexit tra’n Aelod o’r Senedd. Wedi hynny, ffurfiodd yr Independent Alliance for Reform a sefyll fel aelod annibynnol yn etholiad y Senedd yn 2021, cyn sefyll dros Reform y tro hwn.
“Felly, rhaid edrych ar be mae pleidiau yn gallu ei wneud i chi pan rydych yn pleidleisio, neu byddwch yn cael eich siomi,” ychwanega Andrew RT Davies.
“Be dw i’n meddwl sy’n bwysig i ni fel Ceidwadwyr ydi gwneud yr hyn rydym yn ei ddweud, a dw i yn ymrwymo i greu maniffesto fydd yn gwneud hynny.”