Mae Aled Thomas, fu’n sefyll dros y Blaid Geidwadol yng Ngheredigion Preseli, wedi dweud wrth golwg360 bod rhaid cael mwy o “hunaniaeth Gymreig” o fewn y blaid drwy gael arweinydd Ceidwadol yng Nghymru, fel sydd yn Yr Alban.
Pumed oedd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion Preseli, ar ôl Plaid Cymru oedd gan fwyafrif o tua 13,000, y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a Reform.
Mae’r Ceidwadwyr wedi colli pob sedd yng Nghymru, a chwympodd cyfran eu pleidlais nhw i 18%.
“Mae e’n glir ei bod hi wedi bod yn noson anodd i ni, yn enwedig yng Nghymru lle mae colli pob llais Ceidwadol yn San Steffan yn beth wael,” meddai Aled Thomas.
“Ond mae dal tîm cryf gennym ni yn y Senedd.
“Dwi yn credu bod angen i ni fel plaid neud yr un fath o beth a ddigwyddodd yn Yr Alban.
“Achos mae ganddyn nhw Arweinydd y Blaid Geidwadol i’r Alban, ac yn dechnegol does gennym ni ddim arweinydd yma yng Nghymru.
“Mae Andrew RT Davies yn arweinydd y blaid yn y Senedd wrth gwrs, ond oherwydd cyfansoddiad y blaid rydym yn dechnegol yn mynd efo Lloegr efo popeth.
“Ond mae rhaid i ni gael mwy o hunaniaeth Gymreig arno fe, ac wedyn mynd ymlaen at etholiad Senedd yn 2026.”
Pleidleiswyr Reform
Yng Nghymru, enillodd Reform 17% o’r bleidlais – sydd 2% yn uwch na Phlaid Cymru – ond oherwydd y system etholiadol does ganddyn nhw’r un sedd yn y wlad.
“Un peth dw i wedi yn pigo fyny gan bobol ar y stepen ddrws, a hefyd yn y cyfri neithiwr, mae Farage a Reform wedi gwerthu rhywbeth i bobol sydd wedi pleidleisio drostyn nhw sydd ddim yn realistig oherwydd y system etholiadol,” meddai.
“Y cwestiwn nawr ydy, yw’r bobol sydd wedi pleidleisio Reform yn mynd i ddweud: ‘Wnâi ddim gwneud hynna eto’, neu ydi Reform yn mynd i drio dod allan fel plaid synhwyrol hefyd.
“Be sy’n glir yw bod Reform wedi cymryd pleidleisiau o’r ddwy brif blaid, a hynny mewn gwahanol lefydd.
“Edrycha ar Nia Griffith yn Llanelli, ddaru Reform bron ennill yno, rhywbeth fyddai’n hollol wallgof i feddwl am gwpl o fisoedd yn ôl.”
‘Pleidleisio tactegol’
Yng Ngheredigion Preseli, enillodd Ben Lake gyda buddugoliaeth ysgubol a 46.9% o’r bleidlais.
Yn ôl Aled Thomas, mae’r fuddugoliaeth yn “arwydd o bleidleisio tactegol”.
“Y peth oedd yn ddrwg yma i ni yng Ngheredigion Preseli yw bod y blaid dactegol wedi gweithio yn erbyn Llafur a’r Ceidwadwyr,” meddai.
“Doedd pobol Ceredigion Preseli ddim eisiau Llafur, felly ddaru nhw bleidleisio dros Blaid i wneud yn siŵr bod ddim Llafur yna.
“Felly mae’n bwysig bod pobol yn cofio bod pleidleisio tactegol yn gweithio’r ddwy ffordd.”