Mae golwg360 ar ddeall ei bod hi’n “debygol” mai’r ymgeisydd efo’r gyfran fwyaf o bleidleisiau yng Nghymru fydd yn arwain y blaid mewn i etholiad y Senedd yn 2026.
Gareth Beer, yr ymgeisydd yn Llanelli, gafodd y gyfran uchaf o bleidleisiau i’r blaid, gan orffen yn ail i Nia Griffith o tua 1,500 o bleidleisiau.
Er i Lafur ennill buddugoliaeth swmpus yma yng Nghymru gan gipio 9 sedd yn ôl gan y Ceidwadwyr, mae cyfran y blaid wedi lleihau tua 4% yng Nghymru.
Yn sgil hynny a chanlyniad hanesyddol ddrwg i’r Ceidwadwyr, mae plaid Reform wedi cynyddu’r gyfran o tua 11.5%, ac wedi denu 223,018 o’r bleidlais genedlaethol.
Yn fwy trawiadol, mi ddaeth y blaid yn ail mewn 13 allan o 32 sedd, sydd yn fwy nag unrhyw blaid arall.
Wele’r map isod, gan Dafydd Elfryn ar X, sy’n dangos pa bleidiau ddaeth yn ail ledled Cymru.