Elin Roberts, dadansoddwr geowleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus sy’n byw ym Mharis, sy’n trafod etholiad y Deyrnas Unedig ac etholiad seneddol Ffrainc – fydd yn dod i ben ddydd Sul (Gorffennaf 7). 


Mae 2024 yn flwyddyn holl bwysig i ddemocratiaeth y byd gan mai dyma un o’r blynyddoedd pan mae’r nifer fwyaf o bobol am daro’u pleidlais.

Roedd disgwyl etholiadau yn y Deyrnas Unedig eleni, a disgwyl iddyn nhw gael eu cynnal yn ail hanner y flwyddyn. Cadarnhawyd hyn wedi i Rishi Sunak ddatgan ar yr 22ain o Fai y byddai’r etholiadau yn cael cynnal ar y 4ydd o Orffennaf.

Ar ochr arall y Sianel, fe ddaeth etholiadau seneddol yn Ffrainc fel sioc wedi canlyniadau etholiadau Ewrop. O fewn yr etholiadau yma, fe wnaeth plaid adain dde eithafol Marine Le Pen, Rassemblement National, ennill 31.37% o’r bleidlais ac ennill 30 allan o 81 sedd Ffrainc yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar ôl gweld buddugoliaeth y Rassemblement National ochr yn ochr ei blaid ei hun, ddaeth yn ail gyda 14.6% o’r bleidlais, fe roddodd Emmanuel Macron araith ar noson y 9fed o Fehefin wrth i ganlyniadau Ewrop gael eu datgan. Roedd araith Macron yn sioc i bawb gydag aelodau seneddol ei blaid ei hun yn gwadu y byddai’n datgan etholiad. Datganwyd y byddai rownd gyntaf yr etholiadau yn cael eu cynnal ar y 30ain o Fehefin a’r ail rownd i ddod ar y 7fed o Orffennaf.

Fel arfer caiff etholiadau arlywyddol ac etholiadau seneddol Ffrainc eu cynnal yn ystod yr un flwyddyn, ond mae eu cynnal ar wahân yn cynyddu’r siawns o “cohabitation”, hynny yw cael Arlywydd a Phrif Weinidog sy’n dod o ddwy blaid wahanol. Gwelwyd hyn o dan François Mitterand a Jacques Chirac. O achos dylanwad yr asgell dde yn Ffrainc, mae disgwyl gweld cohabitation – yn enwedig gan y bydd etholiadau arlywyddol yn cael eu cynnal yn 2027. Mae llawer yn teimlo bod Macron wedi creu diwygiad sefydliadol dros nos wrth ddatgan yr etholiadau.

Mae’r ddau etholiad yma yn cynrychioli pethau gwahanol iawn i’r ddwy wlad.

Yn y Deyrnas Unedig, rydym wedi gweld etholiad er mwyn cael gwared â’r 14 mlynedd o lywodraeth y Ceidwadwyr, cyfnod pan welwyd cynnydd mewn tlodi, gostyngiad yn safonau byw, Brexit, sgandalau COVID, ac ati. Mae buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur yn brawf cryf o hyn yn ogystal â’r ffaith nad oes yr un aelod seneddol o’r Blaid Geidwadwyr na’r Blaid Reform wedi eu hethol yng Nghymru.

Tra bod y Deyrnas Unedig wedi troi tuag at y chwith, mae Ffrainc yn troi tuag at y dde eithafol. Fe wnaeth blaid asgell dde, Rassemblement National ennill 33.1% o’r bleidlais yn rownd gyntaf yr etholiadau seneddol, gyda’r grŵp asgell chwith, Nouveau Front populaire, yn ennill 28% o’r bleidlais a phlaid Macron, Ensemble, yn ennill 20%. Yn yr ail rownd, rydym yn disgwyl y bydd y Rassemblement National yn dod yn fuddugol, ond y cwestiwn yw a fydden nhw’n gallu ffurfio llywodraeth.

Yn y dyddiau diwethaf mae’r asgell chwith a phlaid Macron wedi dod at ei gilydd wrth iddyn nhw dynnu ymgeiswyr a ddaeth yn drydydd yn y rownd gyntaf rhag sefyll yn yr ail rownd mewn ymgais i rwystro llwyddiant ysgubol i’r asgell dde. Wedi’r ail rownd, pe byddai’r asgell chwith a phlaid Macron yn creu clymblaid, byddai modd rhwystro’r asgell dde, ond byddai hyn yn cael effaith negyddol ar ddarlun plaid Macron a’i ymgais i ennill yr arlywyddiaeth yn 2027. Bydd rhaid i ni ddisgwyl tan yr wythnos nesaf i weld beth fydd yn digwydd yn Ffrainc.

Wrth edrych ar ddyfodol y ddwy wlad, sut berthynas fydd rhyngddyn nhw?

Y bore ’ma, roedd Macron yn sydyn iawn i longyfarch Starmer ar ei fuddugoliaeth wrth iddo drydar: “Llongyfarchiadau @Keir_Starmer ar eich buddugoliaeth. Hapus gyda’n sgwrs gyntaf. Byddwn yn parhau â’r gwaith a wneir gyda’r Deyrnas Unedig ar gyfer ein cydweithrediad dwyochrog, ar gyfer heddwch a diogelwch Ewrop, ar gyfer hinsawdd, a deallusrwydd artiffisial”.

Wrth edrych ar ddyfodol y berthynas rhwng y ddwy wlad, mae’n rhaid cyfaddef y bydd yn un anodd iawn. O dan y Blaid Geidwadol roedd llawer o gydweithio rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc ar fewnfudo ac ar roi stop ar y cychod bach. Mae newid i’r Blaid Lafur yn agor y drws i ganolbwyntio ar faterion fel yr amgylchedd, technoleg, a pholisïau amddiffyn. Ar ochr arall y geiniog, os bydd y Rassemblement National yn dod yn fuddugol yn yr ail rownd yn Ffrainc ac yn ffurfio llywodraeth, mae’n debyg iawn y byddai polisi tramor y llywodraeth hon yn canolbwyntio ar fewnfudo “anghyfreithlon” (term nad wyf yn ei hoffi, ond dyma’r gair sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr asgell dde yn Ffrainc). Hefyd rydym yn disgwyl i’r Rassemblement National atgyfnerthu partneriaethau gyda Rwsia ac Israel a fyddai’n gallu bod yn fygythiad diogelwch i bartneriaethau NATO.

Bydd rhaid disgwyl tan fore Llun nesaf i wybod yn iawn beth fydd dyfodol Ffrainc a dyfodol perthynas y Deyrnas Unedig a Ffrainc, yn ogystal â dyfodol NATO.