Mae Keir Starmer a’r Blaid Lafur ar eu ffordd i Rif 10 ar ôl noson lwyddiannus iawn i’w blaid ledled gwledydd Prydain.
Yma yng Nghymru, mae Llafur wedi ennill 27 o seddi, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol ag Aelod Seneddol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 2017.
Golyga hynny nad oes gan y Ceidwadwyr yr un Aelod Seneddol yng Nghymru bellach.
Ledled y Deyrnas Unedig, mae Llafur wedi ennill mwyafrif sylweddol gan lwyddo i wrthdroi canlyniad gwael 2019 – eu gwaethaf ers 1935. Mae ganddyn nhw o leiaf 410 o’r 650 sedd yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fel mae pethau, mae’r Ceidwadwyr ar eu ffordd at eu canlyniad gwaethaf yn y cyfnod modern, ac mae sawl enw mawr megis y cyn-Brif Weinidog Liz Truss, yr Ysgrifennydd Amddiffyn Grant Shapps, Jacob Rees-Mogg a Penny Mordaunt wedi colli’u seddi.
Yng Nghymru, mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwlad Cymru, Simon Hart ac Alun Cairns, dau gyn-Ysgrifennydd Gwladol arall, Sarah Atherton, Craig Williams a Virginia Crosbie ymysg y Ceidwadwyr fydd ddim yn dychwelyd i San Steffan.
Ar ôl ymgeisio sawl tro, mae Nigel Farage, arweinydd Reform UK, wedi cael ei ethol i San Steffan, ac mae gan y blaid bellach bedwar Aelod Seneddol.
Dros y Deyrnas Unedig, roedd hi’n noson fwy llwyddiannus na’r disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol, fydd gan o leiaf 71 o Aelodau Seneddol ac yn gorffen ar ôl Llafur a’r Ceidwadwyr. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill mwy na 70 sedd ers i’r blaid gael ei sefydlu.
Dyma oedd gan Dylan Iorwerth i’w ddweud yn ystod y nos wrth drafod llwyddiant y blaid:
“Yn dawel bach, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael canlyniad da iawn yn Lloegr, yn talu’r pwyth i’r Ceidwadwyr am ‘frad’ 2015 a’r polisi o gimics a chanolbwyntio ar ychydig seddi yn talu.”
Mae gan y Blaid Werdd bedair sedd hefyd, sy’n cynnwys llwyddiant i gyd-Arweinydd y blaid, Carla Denyer, ym Mryste. Dim ond un sedd oedd ganddyn nhw cyn yr etholiad.
Yn yr Alban, roedd hi’n noson siomedig i’r SNP sydd wedi ennill naw sedd, hyd yn hyn, o gymharu â 48 yn 2019 – gyda dim ond tair sedd ar ôl yn yr Alban i gyhoeddi’u canlyniadau.
Draw yng Ngogledd Iwerddon, mae Sinn Féin wedi gorffen â’r nifer uchaf o Aelodau Seneddol yn San Steffan am y tro cyntaf.
Roedd hi i weld yn noson siomedig o ran nifer y pleidleiswyr hefyd, gyda’r ganran dros y Deyrnas Unedig ar 59.8% ar ôl i 630 o 650 o’r seddi gael eu cyhoeddi. 56.2% o bobol oedd yn gymwys i bleidleisio wnaeth wneud yng Nghymru, sydd 10% yn is nag yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf.
‘Newid yn dechrau nawr’
Bydd gan y Blaid Lafur o leiaf 209 o Aelodau Seneddol ychwanegol ar ôl yr etholiad hwn.
Mae’r gefnogaeth i Lafur wedi cynyddu tua 1.6% ers 2019 dros y Deyrnas Unedig, ond mae’r cynnydd mwyaf yn yr Alban lle mae Llafur wedi cipio nifer fawr o seddi’r SNP. Yng Nghymru, mae cyfran pleidlais Llafur wedi gostwng er eu bod nhw wedi ennill mwy o seddi.
Yn ei araith fuddugol, dywed Keir Starmer bod “newid yn dechrau nawr”.
Wrth siarad â thorf o’i gefnogwyr, dywedodd bod y Deyrnas Unedig unwaith eto’n profi “golau gobaith”.
“Mae golau gobaith, gwan i ddechrau ond yn cryfhau drwy gydol y dydd yn disgleirio unwaith eto ar wlad sydd gan gyfle i ailgodi wedi 14 mlynedd,” meddai.
Yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mi fydd Keir Starmer yn well Prif Weinidog nag yr oedd wrth arwain yr wrthblaid. Mi ddywedodd wrth y BBC y byddai ei gryfderau yn “dod i’r amlwg” yn y swydd.
‘Noson anodd’
Bydd Rishi Sunak yn gadael Rhif 10 yn yr oriau nesaf ac yn cynnig ei ymddiswyddiad i’r Brenin, a thua phump o gloch y bore fe wnaeth y Prif Weinidog gyfaddef ei fod wedi colli ac wedi ffonio Keir Starmer i’w longyfarch.
Etholaeth Rishi Sunak yw’r unig sedd sydd wedi bod yn gartref i Brif Weinidogion Ceidwadol dros y 14 mlynedd ddiwethaf sydd dal yn nwylo’r Ceidwadwyr.
“Ar y noson anodd hon, hoffwn roi fy niolch i bobol etholaeth Richmond a Northallerton am eich cefnogaeth barhaus,” meddai.
“Heddiw, bydd grym yn newid dwylo mewn ffordd heddychlon a threfnus, gydag ewyllys da ar y ddwy ochr.
“Dylai hyn fod yn rhywbeth sy’n rhoi hyder i ni gyd yn sefydlogrwydd a dyfodol ein gwlad.
“Mae pobol Prydain wedi anfon canlyniad sobor heno, mae llawer i’w ddysgu… a dw i’n cymryd cyfrifoldeb dros y golled,” meddai gan ymddiheuro.