Mae’r Ceidwadwyr wedi colli pob un o’u seddi yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 2024.

Dros nos, mae mwy o goch a gwyrdd wedi ymuno â map gwleidyddol Cymru wrth i’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru gipio etholaethau newydd.

Mae’r Blaid Lafur wedi adennill nifer o seddi allweddol gan gynnwys Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a Wrecsam.

Mae Plaid Cymru wedi ennill pedair sedd sef Ynys Môn, Caerfyrddin, Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dathlu hefyd wedi iddyn nhw gipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr.

Llafur yn ennill

Mae’r Blaid Lafur wedi llwyddo i adennill Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy a Wrecsam ac wedi cipio seddi newydd, sef Bangor Aberconwy, Gogledd Clwyd, Dwyrain Clwyd, Maldwyn a Glyndŵr a Chanol a De Sir Benfro gan y Ceidwadwyr.

Un o’r seddi mwyaf arwyddocaol i’r Ceidwadwyr golli i’r Blaid Lafur yw Sir Fynwy.

Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dal y sedd ers 2005.

Ef yw’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyntaf i golli ei sedd tra yn y swydd ers i’r rôl gael ei chreu yn 1964.

Yn ogystal, mae’r tri fu’n dal y rôl o’i flaen Alun Cairns, Stephen Crabb a Simon Hart, wedi colli’u seddi.

Yn ôl Dylan Iorwerth, mae’r Blaid Lafur wedi gwneud yn “wych o ran seddi” ond “ddim hanner cystal o ran canran y pleidleisiau”, sy’n arwydd o ddiffyg brwdfrydedd a phroblemau Vaughan Gething, meddai.

Er eu bod nhw wedi ennill naw sedd yn ychwanegol, mae canran pleidlais Llafur lawr i 37% o 40.9% yn 2019.

“Yn sicr, bydd ambell Aelod o’r Senedd Llafur yn deffro bore ’ma gydag un llygad ar etholiadau’r Senedd ymhen dwy flynedd, ac efo cryn bryder,” meddai ein sylwebydd, Jason Morgan.

“Mae’n teimlo bod yna newid wedi bod yng Nghymru nas rhagwelwyd.”

Y Ceidwadwyr yn colli eu sedd fwyaf diogel

Wedi’i ddal mewn sgandal betio a’i wahardd gan ei blaid, mae Craig Williams wedi mynd o ddal y sedd Dorïaidd fwyaf diogel yng Nghymru i ddod yn drydydd.

Roedd hi’n frwydr agos ym Maldwyn a Glyndŵr, gyda phump o’r chwe ymgeisydd yn derbyn mwy na 5,000 o bleidleisiau.

Llafur oedd yr unig blaid i gael mwy na 10,000 o bleidleisiau, gyda 12,709 pleidlais yn erbyn 8,894 Reform.

Enillodd Craig Williams 7,775, y Democratiaid Rhyddfrydol 6,470, Plaid Cymru 5,667 a’r Blaid Werdd 1,744.

Dyma’r tro cyntaf yn hanes yr etholaeth iddi fod yn nwylo’r Blaid Lafur.

Plaid Cymru yn llwyddo

Bu canlyniad arwyddocaol iawn yn Ynys Môn wrth i Llinos Medi o Blaid Cymru gipio’r sedd o ddwylo Virginia Crosbie a’r Ceidwadwyr.

Aeth 32% (10,590) o’r bleidlais i Blaid Cymru, cwta 637 o fwyafrif dros y Ceidwadwyr.

“Felly Virginia Crosbie ydi’r aelod seneddol cyntaf ar Ynys Môn i golli ei sedd ers y 1950au, ond mae hwn yn ganlyniad eithriadol o ddifyr,” meddai ein sylwebydd, Jason Morgan yn ein blog byw.

“Yn sicr, profodd Crosbie bwynt wrth i bawb drwy’r ymgyrch ddiystyru ei chyfleoedd a dweud mai ras dwy ffordd rhwng y cenedlaetholwyr a Llafur oedd hi.”

Fe lwyddodd Plaid Cymru i gipio sedd Caerfyrddin hefyd, a honno gan Simon Hart o’r Blaid Lafur.

Mae cynnydd o 3.3% yn y bleidlais i Blaid Cymru, gyda’r Ceidwadwyr lawr 19.8%.

Mae’r Blaid Lafur hefyd lawr fymryn (-1.0%) gyda Reform fyny 11.4%.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n saff dweud erbyn hyn bod Plaid Cymru wedi cael ei hetholiad cyffredinol gorau ers degawdau, nid yn unig achos iddi ‘gipio’ seddi, ond bod ei phleidlais hi wedi bod ar ei fyny ar draws y wlad, a hynny mewn etholiad ddylai fod wedi bod yn heriol iddi mewn gwirionedd,” meddai Jason Morgan.

Dros y wlad, cynyddodd pleidlais Plaid Cymru o 9.9% i 15% ers 2019.

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn dwyn eu sedd yn ôl

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill eu sedd gyntaf yn San Steffan ers i Mark Williams golli’i le yng Ngheredigion yn 2017.

Dim ond o 0.3% mae David Chadwick wedi cynyddu pleidlais y blaid yn Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, tra bod y gefnogaeth i Fay Jones, y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, wedi gostwng 20.3%.

Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’i phleidlais wedi mynd tuag at Reform, gyda chynnydd o 12.3% i’r blaid.

Mae cynnydd bychan o 3.8% i’r Blaid Lafur hefyd.

Dim seddi i Reform, ond trydydd ledled y wlad

Er nad yw Reform wedi ennill yr un sedd yng Nghymru, fe ddaethon nhw’n ail mewn ambell etholaeth.

Dim ond tua 1,500 oedd rhwng Gareth Beer, yr ymgeisydd Reform, a Nia Griffith o’r Blaid Lafur yn Llanelli, ac fe ddaethon nhw’n ail yn nifer o etholaethau’r Cymoedd.

Llwyddodd Reform i ennill 17% o’r bleidlais yng Nghymru, un pwynt canran tu ôl i’r Ceidwadwyr.

Dyma restr lawn o ba blaid sy’n dal bob etholaeth yng Nghymru:

Aberafan Maesteg – Llafur

Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe – Y Democratiaid Rhyddfrydol

Alun a Glannau Dyfrdwy – Llafur

Bangor Aberconwy – Llafur

Blaenau Gwent a Rhymni – Llafur

Bro Morgannwg – Llafur

Caerffili – Llafur

Caerfyrddin – Plaid Cymru

Canol a De Sir Benfro – Llafur

Castell-nedd a Dwyrain Abertawe – Llafur

Ceredigion Preseli – Plaid Cymru

De Caerdydd a Phenarth – Llafur

Dwyfor Meirionnydd – Plaid  Cymru

Dwyrain Caerdydd – Llafur

Dwyrain Casnewydd – Llafur

Dwyrain Clwyd – Llafur

Gogledd Caerdydd – Llafur

Gogledd Clwyd – Llafur

Gorllewin Abertawe – Llafur

Gorllewin Caerdydd – Llafur

Gorllewin Casnewydd ac Islwyn – Llafur

Gŵyr – Llafur

Llanelli – Llafur

Maldwyn a Glyndŵr – Llafur

Merthyr Tudful ac Aberdâr – Llafur

Pen-y-bont ar Ogwr – Llafur

Pontypridd – Llafur

Wrecsam – Llafur

Rhondda ac Ogwr – Llafur

Torfaen – Llafur

Sir Fynwy – Llafur

Ynys Môn – Plaid Cymru

  • Am y canlyniadau llawn a’r holl sylwebaeth dros nos, ewch i’n Blog Byw:

Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan