“Canlyniad arbennig” i Blaid Cymru ond y gwaith rŵan yw “adeiladu at etholiad 2026”, dyna eiriau Arweinydd y blaid heddiw
Bu Rhun ap Iorwerth yn siarad â golwg360 yn y cyfrif yn dilyn buddugoliaeth Llinos Medi yn Ynys Môn.
Cychwynnodd yr ymgyrch yn siarad â Golwg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Maldwyn, pan ddywedodd ei fod yn disgwyl ymgyrch “heriol”.
Mae Plaid Cymru wedi ennill pedair sedd, gan ddal ar Ddwyfor Meirionnydd a Ceredigion Preseli gyda mwyafrifoedd mawr, a chipio Caerfyrddin ynghyd ag Ynys Môn.
“Roeddwn i’n dweud ar y cychwyn ei fod o’n etholiad heriol, [yn] gwybod bod y pegynnu yn y wasg Brydeinig,” meddai Rhun ap Iorwerth dros nos.
“Y teimlad yma o goch yn erbyn glas, gwybod bod newid y ffiniau wedi bod yn angharedig iawn efo Plaid Cymru yn haneru’r nifer o seddi oedden ni’n eu dal mewn egwyddor.
“Rŵan dw i’n edrych yn ôl ar gael y canlyniadau arbennig yma yng Nghaerfyrddin, Ceredigion ac Ynys Môn ac yn gallu dweud bod y neges yma oedd gennym ni fod y Ceidwadwyr angen mynd ond bod angen cadw i gyfri wedi cael ei dderbyn yn gynnes iawn ar draws Cymru.
“Y gwaith rŵan ydi adeiladu at etholiad [y Senedd] 2026.”
‘Teimlad bendigedig’
Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru ennill yn Ynys Môn ers 1997 pan oedd Ieuan Wyn Jones yn sefyll yno.
Roedd nifer yn gweld y ras yn yr etholaeth fel un rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, ond Virginia Crosbie, y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, ddaeth yn ail yn y diwedd.
Dywed Rhun ap Iorwerth bod y ffaith fod yr ymgeisydd Llafur, Ieuan Môn Williams, wedi dod yn drydydd yn amlygu pa mor unigryw yw gwleidyddiaeth yng Nghymru.
“Yn ôl y ffigyrau dw i wedi gweld yn ddiweddar, dydy pobol Cymru ddim yn cael eu bodloni gan lywodraethiant Llafur yng Nghymru – sydd yn gwneud pethau’n ddifyr yn edrych tuag at etholiad Senedd 2026.”
Enillodd Llinos Medi gyda mwyafrif o 600 pleidlais i Virginia Crosbie.
“Mi oedd o’n deimlad bendigedig i weld hi’n ennill, a do mi wnes i ryw fath o wenu i fi fy hun yn meddwl ar un adeg roeddwn i’n mynd i fod yn sefyll yn y fan honno,” meddai Rhun a’r fuddugoliaeth Llinos Medi.
“Fel arweinydd Plaid a ffrind a rhan o’r tîm iddi hi yma yn Ynys Môn doedd gen i ddim byd ond balchder dros Linos a dw i’n dymuno’n dda iddi hi.”
Y foment mae Llinos Medi @Plaid_Cymru yn cipio Ynys Môn. pic.twitter.com/nbpa43N3PA
— Rhys Owen (@RhysOwen1234) July 5, 2024
Sefyllfa’r SNP
Yn yr Alban, mae’r SNP wedi cael noson ddifrifol o siomedig ac yn debygol o ennill wyth sedd o gymharu â’r 48 y gwnaethon nhw ennill yn 2019. Rhedodd y blaid ar fandad dros annibyniaeth.
Wrth gael ei holi a oes pryder bod y neges am annibyniaeth yn Yr Alban yn debygol o gael effaith ar Blaid Cymru, dywed Rhun ap Iorwerth bod “gennym ni ddwy system etholiadol a dau gyd-destun gwleidyddol cwbl wahanol”.
“Mae’r SNP, drwy’r llwyddiant mawr sy’n mynd ôl ddim yn bell o ugain mlynedd erbyn hyn, a’r ffaith eu bod wedi bod yn arwain llywodraeth a’r heriau mae hyn ei olygu – ydi, dyma ydi ruddemau gwleidyddiaeth yn aml iawn, ond dw i’n hyderus iawn y bydd yr SNP yn gallu ail-adeiladu.
“Mae’r neges dros annibyniaeth wrth gwrs yn parhau yn gryf iawn yno.”