Gyda dim ond ychydig ddyddiau i fynd cyn yr Etholiad Cyffredinol ar Orffennaf 4, mae un stori wedi bod yn hawlio’r penawdau yn ystod y cyfnod ymgyrchu, sef yr honiadau yn ymwneud â gosod betiau ar ddyddiad yr etholiad.
Mae sawl aelod o’r Blaid Geidwadol yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo erbyn hyn. Ond beth yw cefndir y sgandal?
Pryd ddaeth yr helynt i’r amlwg?
Tua phythefnos yn ôl, gwnaed honiadau bod Craig Williams, ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr ym Maldwyn a Glyndŵr, wedi gosod bet o £100 ar ddyddiad yr etholiad, yn un o siopau Ladbrokes. Roedd hynny dridiau cyn i Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, gyhoeddi’r dyddiad ym mis Mai.
Cafodd Craig Williams, 39 oed, ei benodi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Rishi Sunak yn 2022.
Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 2019, ar ôl cynrychioli etholaeth Gogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017 a cholli ei sedd i’r aelod Llafur Anna McMorrin.
Pam mae ymchwiliad yn cael ei gynnal?
Fe allai Craig Williams fod wedi ennill £500, ond daeth y bet i sylw cwmni Ladbrokes, sydd â dyletswydd i adrodd am achosion lle mae pobol sy’n agored i dwyll yn betio.
Gallai manteisio ar wybodaeth gyfrinachol er elw gael ei ystyried yn drosedd, ac fe allai ei ymddygiad gael ei ystyried yn achos o ddwyn anfri ar San Steffan.
Beth oedd ymateb Craig Williams pan ddaeth yr honiadau i’r amlwg?
Mae Craig Williams wedi ymddiheuro, gan ddweud ei fod wedi gwneud “camgymeriad enfawr” ac y bydd yn “cydymffurfio’n llawn” ag ymchwiliad y Comisiwn Gamblo i’w ymddygiad, ond nad yw am wneud sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Pwy arall sydd wedi cael eu cynnwys fel rhan o ymchwiliad y Comisiwn Gamblo?
Ers i’r helynt ddod i’r amlwg, mae’r Comisiwn Gamblo wedi ehangu eu hymchwiliad i gynnwys cannoedd o fetiau amheus yn y dyddiau’n arwain at yr etholiad cyffredinol.
Mae sawl person sydd â chysylltiad â’r Blaid Geidwadol, a chwe swyddog gyda Heddlu Llundain, wedi dod yn rhan o ymchwiliad y Comisiwn Gamblo, yn dilyn honiadau eu bod wedi gosod betiau tebyg ar ddyddiad yr etholiad.
Laura Saunders, ymgeisydd y Blaid Geidwadol yng Ngogledd Orllewin Bryste, oedd yr ail berson i gael ei henwi yn yr helynt. Mae hi wedi gweithio i’r blaid ers 2015. Mae adroddiadau bod ei gŵr, Tony Lee, hefyd yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo.
Datgelodd The Guardian ar Fehefin 25 fod yr Aelod o’r Senedd Russell George, sy’n cynrychioli’r un etholaeth â Craig Williams, hefyd yn destun ymchwiliad gan y corff.
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod “Russell George wedi rhoi gwybod i mi ei fod wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn Gamblo ynglŷn â betiau ar amseriad yr etholiad cyffredinol”.
“Mae Russell George wedi camu’n ôl o gabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig tra bod yr ymchwiliadau hyn yn parhau,” meddai.
Dywed Andrew RT Davies fod holl Aelodau Ceidwadol eraill y Senedd wedi gwadu gosod unrhyw fetiau.
Mae’r sgandal hefyd wedi cyffwrdd y Blaid Lafur. Daeth cadarnhad ar Fehefin 25 fod Kevin Craig, ymgeisydd Canol Suffolk a Gogledd Ipswich, hefyd yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo. Mae bellach wedi cael ei wahardd.
Roedd Kevin Craig wedi betio arno’i hun i golli’r sedd ar Orffennaf 4. Y Ceidwadwyr oedd wedi cipio’r sedd gyda mwyafrif ychydig dros 20,000 yn 2019.
Sut oedd y Blaid Geidwadol a Rishi Sunak wedi ymateb i’r helynt?
Wrth gael ei holi ar raglen Question Time y BBC, dywedodd Rishi Sunak fod “yr ymchwiliadau hyn yn parhau… mae un ohonyn nhw yn ymchwiliad troseddol sy’n cael ei gynnal gan yr heddlu”.
“Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych yw, os oes unrhyw un yn cael eu canfod yn euog o dorri’r rheolau, nid yn unig y dylen nhw wynebu canlyniadau llawn y gyfraith, ond byddaf yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu taflu allan o’r Blaid Geidwadol.”
Mae’r Ceidwadwyr bellach wedi tynnu eu cefnogaeth i Craig Williams yn ôl, ynghyd â Laura Saunders, ymgeisydd y blaid yng Ngogledd Orllewin Bryste.
Mewn cyfweliad gyda Sky News ddydd Iau (Mehefin 27), fe wrthododd Rishi Sunak ddweud pryd y dywedodd wrth Craig Williams beth oedd dyddiad yr etholiad cyffredinol, gan honni nad oedd am amharu ar yr ymchwiliad.
Beth yw’r ymateb i’r modd mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi delio gyda’r helynt?
Mae nifer o aelodau’r gwrthbleidiau, ynghyd â rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol, wedi beirniadu Rishi Sunak gan ddweud ei fod wedi bod yn rhy ara’ deg yn ymateb i’r sgandal.
Yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, roedd gwneud “esgusodion” am eu hymddygiad yn “anfaddeuol”.
Mae Aled Thomas, ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr yng Ngheredigion Preseli, yn dweud ei fod yn “grac” fod holl ymgeiswyr ei blaid yn cael eu “paentio efo’r un brwsh” yn sgil ymddygiad rhai sydd ynghanol yr helynt.
“Y peth ydy, ym mhob plaid, mae pobol yn gwneud camgymeriadau,” meddai.
“Ond beth sydd yn fy ngwneud i’n grac yw bod ymgeiswyr da dros Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu paentio efo’r un brwsh.”