Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Y newyddiadurwraig a chyflwynydd teledu, Siân Lloyd, sy’n agor y drws i’w chartref yr wythnos hon. Mae hi’n dod o Wrecsam yn wreiddiol a bellach yn byw yn Nhresimwn ym Mro Morgannwg…
Wnes i symud i Dresimwn ym Mro Morgannwg rai blynyddoedd yn ôl, ar ôl byw yn agosach at Landaf lle’r oeddwn i’n gweithio i BBC Cymru ar y pryd. Symudais i’r de o’r gogledd yn wreiddiol ar gyfer fy swydd. Mae’r Fro yn fwy gwledig na lle’r oeddwn i’n byw o’r blaen yng Nghaerdydd, ac mae fy nghartref presennol yn edrych allan ar gaeau agored.
Rydan ni wedi adnewyddu’r tŷ bron yn gyfan gwbl – wedi tynnu waliau i ymestyn y gegin, wedi disodli nenfydau a wnaed o Artex ac wedi moderneiddio yn gyffredinol.
Fy hoff ’stafell ydy’r gegin, gan ei bod yn ganolbwynt y cartref pan mae pawb adre. Hefyd mae’n cael llawer o olau yn ystod y dydd, gyda golygfa hyfryd o gefn gwlad. Dw i’n gweithio o gartref yn bennaf rŵan, ac yn mwynhau cymryd seibiant gyda phaned yn y gegin yn edrych allan ar fyd natur. Mae fy hoff fwg yn f’atgoffa o adre!
Mae eitemau personol fel lluniau’r teulu yn bwysig iawn i fi, ond hefyd dw i wedi casglu ambell beth wrth deithio ar wyliau a hefyd gyda’r gwaith.
Bues i’n cyflwyno Wales Today am flynyddoedd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac rydw i’n hoff iawn o ymweld â’r stondinau ar y Maes. Prynais i gopi o Calon Lân mewn ffrâm yn ystod ’Steddfod Glyn Ebwy nol yn 2010.
Ro’n i’n hoffi’r clawr hwn o’r cylchgrawn The New Yorker, wnes i brynu pan ro’n i’n ymweld â fy mrawd oedd yn byw yn Efrog Newydd ar y pryd.
Y teulu a ffrindiau sy’n dod draw sy’n gwneud tŷ yn gartref i fi. Mae’r adnewyddiadau wedi cymryd amser maith, ond rwan mae’r tŷ yn barod ar gyfer cymdeithasu!