Dolfawr (5)
Berthddu (4)
Bwlchgwyn (7)
Ffos-yr-Hwyaid (5)
Waunlwyd (4)
Bryn Meherin (2)
Bryn Melin (2)
Hirllwyn (6)
Llwynteg Uchaf (7)
Lanfraith (4)
Gwybedog (4)
Cefn Ioli (4)
Ffynnon Dafydd Bevan (6)
Cross Inn Cottage (4)
Llwyn Coli (5)
Blaen Talar (7)
Gilfach-yr-Haidd (3)
Cefn Cyrnog (4)
Neuadd Fach (4)
Cefngwyn (12)
The Bungalow (2)
Waenfawr (4)
Croffte (2)
Caerllwn (5)
Abercyrnog (2)
Tirbach (2)
Gythane (4)
Gelli Gaeth (4)
Cefnbryn Isaf (4)
Cefnbryn Uchaf (3)
Tircyd (8)
Craig (6)
Ynyshir (2)
Maerdy (2)
Blaen Engnant Isaf (4)
Bwllfa Uchaf (2)
Cwm Car (3)
Car (3)
Rhyd-y-Maen (4)
Beili Richard (4)
Neuadd Lwyd (2)
Aber Criban (2)
Lion (4)
Llwyn Onn (4)
Blaenysgir Fawr (1)
Llawr-y-Dolau (5)
Disgwylfa (3)
Drovers Arms (2)
Ffrwdwen (7)
Dyma enwau’r ffermydd a’r aelwydydd gafodd eu colli ar Fehefin 30, 1940. Mae’r rhif mewn cromfachau’n nodi nifer y bobol yn y teulu oedd yn byw ynddyn nhw ar y pryd.
Blwyddyn i’w chofio oedd 1939; y flwyddyn honno y torrodd argae’r Ail Ryfel Byd, wrth gwrs; ond hon hefyd oedd y flwyddyn pan gafodd diwedd Cwm Cilieni a’r cylch ei gyhoeddi ar Fynydd Epynt ym Mrycheiniog. Cafodd y gwair, y gwenith, yr ŷd, y barlys, y tatw a’r erfin eu cynaeafu i’r ysguboriau am y tro olaf. Chawson nhw mo’u cynaeafu gan neb byth wedyn.
Roedd y Swyddfa Ryfel wedi penderfynu perchenogi Cwm Cilieni a’r cylch, a’i ddefnyddio fel maes saethu. Daeth gorchymyn oddi wrth y Swyddfa Ryfel, cyn y Nadolig 1939, fod pob ffermwr i adael ei dir erbyn diwedd Ebrill 1940 fan bellaf. Erbyn Mai, roedd bron pob ffarmwr wedi llwyddo i gael fferm newydd. Cafodd cymdeithas glos, agos ei gwasgaru. Diflannodd. Bu’n rhaid i 54 o deuluoedd adael eu cartrefi, a heddiw mae’r tai, yr ysguboriau, y beudai a’r stablau yn adfeilion. Mae olion y caeau yn weladwy o hyd, ond gwyllt yw’r perthi. Heddiw, Dixie’s Corner yw Clwyd Bwlch y Groes; Barker’s Hill yw Llwyncoll, ond gwarth eithaf y cyfan yw Gallow’s Hill am Twyn Rhyd-Car.
Cafodd cymdeithas o ryw 250 o bobol ei dileu. Collodd y capel – Y Babell – bob aelod. Cafodd yr ysgol ei chau. Bu farw cymdeithas gwbl Gymraeg ar Fehefin 30, 1940.
Pam sôn am hyn nawr? Pam sôn am hyn o gwbl? Onid hen hanes ydyw? Meddai O. M. Edwards rywdro, “Mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw.”
Ie, gall golli hwnnw; gall cenedl golli ei henaid. Ddiwedd Mehefin 1940, cafodd Cwm Cilieni ei lyncu gan ‘Rhyfel’, ac ar ddiwedd Mehefin 2024, mae tir Cymru’n frith o safleoedd y lluoedd arfog ac o safleoedd sydd ynghlwm â’r fasnach arfau. Wrth hybu a chaniatáu militareiddio ein gwlad, mae ein cenedl mewn perygl enbyd o golli ei henaid. Mor rhwydd y caniatawn ryw bethau sy’n gwneud anghyfiawnder â ni’n hunain.
Fe wnâi les rhyfeddol i’r bywyd Cymreig pe brwydrai’r Cymro cyffredin dros rywbeth yn lle yn erbyn rhywbeth o hyd fyth. Grym yr Efengyl yw, nid ei bod yn dweud ‘Na’ i ryfel, ond ei bod yn dweud ‘Ie’ brwd i bob ymgais at gymod ym mhob cylch. Beth bynnag arall rwyt ti a minnau’n barod i frwydro yn ei erbyn, y peth, gyda phwyslais trwm ar y gair ‘y’, sydd yn rhaid brwydro drosto yw cymod, ac mae’r frwydr honno’n dechrau wrth ein traed. Mae enaid ein cenedl yn y fantol.