O’r berllan i’r botel, creu seidr sy’n adrodd stori Bro Ddyfi oedd bwriad bugail sydd wedi troi’n ychydig o ŵr busnes.

Menter Sam Robinson, y bardd sy’n aelod o dîm talwrn Y Llewod Coch, yw Seidir Tydecho, ac mae yn gwerthu ei seidrau cyntaf eleni.

Daeth Sam i Gymru o Rydychen i astudio, ac mae wedi ymgartrefu ym Machynlleth ers rhai blynyddoedd, gan ddysgu Cymraeg a dod yn fugail, waliwr a bardd.