Ar ôl y misoedd gwlyb a musgrell, mae’n teimlo fel bod yr haul wedi dod allan o’r diwedd ar albwm newydd Ynys.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae Dylan Hughes yn recordio ei stwff solo dan yr enw Ynys, a bydd ei ail albwm, Dosbarth Nos, allan yr wythnos nesaf.

Dyma gasgliad o ganeuon wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth northern soul a Motown, sy’n llawn egni ac yn cynnig naws gwahanol iawn i albwm gyntaf Ynys…