Swydd Gaerloyw a Morgannwg yn gyfartal

Y sir Gymreig i gyd allan, a’r wiced olaf wedi cwympo oddi ar belen ola’r ornest yn Cheltenham

Colin Ingramgolwg360

Colin Ingram yn sgorio canred yn erbyn Swydd Gaerwrangon

Sgorfwrdd

Mae Morgannwg wedi hepgor Colin Ingram ar gyfer eu taith i Cheltenham i herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth.

Y batiwr o Dde Affrica yw prif sgoriwr y sir, gyda 752 o rediadau mewn deg batiad dros chwe gêm, ar gyfartaledd o 94.

Dim ond Ryan Higgins (Middlesex, 867) ac Emilio Gay  (Swydd Northampton, 786) sydd wedi sgorio mwy drwy’r ail adran i gyd.

Ond dyma’r ail gêm yn olynol i Ingram gael ei hepgor, ac mae golwg360 yn deall nad yw e wedi’i anafu.

Yn ôl Morgannwg, mae e’n gorffwys ar hyn o bryd.

Mae’r bowliwr cyflym James Harris hefyd yn gorffwys, tra bod y chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite wedi’i gynnwys yn y garfan.

Gŵyl Griced Cheltenham

Y gêm hon sy’n agor Gŵyl Griced Cheltenham eleni.

Prif hyfforddwr y tîm cartref, Mark Alleyne, oedd cyd-brif hyfforddwr Morgannwg a hyfforddwr cynorthwyol y Tân Cymreig y tymor diwethaf.

Colli oedd hanes Swydd Gaerloyw yr wythnos ddiwethaf, wrth iddyn nhw herio Swydd Efrog mewn gŵyl arall yn Scarborough.

Mae’r canlyniad hwnnw’n eu gadael nhw’n seithfed, ond dim ond saith pwynt y tu ôl i Swydd Efrog, sy’n drydydd.

Yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Swydd Northampton, mae Morgannwg yn bedwerydd ar 97 pwynt.

Mae Marchant de Lange, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yng ngharfan Swydd Gaerloyw, ac mae Matt Taylor wedi’i gynnwys hefyd.

Ond does dim lle i Chris Dent, Tom Price na Zafar Gohar.

Cheltenham oedd lleoliad y gêm pedwar diwrnod ddiwethaf rhwng y ddau dîm y llynedd, gyda’r gêm yn dod i ben yn gyfartal yn sgil y tywydd.

Carfan Swydd Gaerloyw: G van Buuren (capten), C Bancroft, J Shaw, Zaman Akhter, J Bracey, B Webster, M Taylor, A Singh Dale, E Middleton, B Charlesworth, O Price, D Goodman, M Hammond, M de Lange

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, E Byrom, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, A Gorvin, B Kellaway, M Labuschagne, J McIlroy, H Podmore, B Root, T van der Gugten, W Smale, T Bevan

18:57

GÊM GYFARTAL.

Morgannwg 592 i gyd allan. Y sgôr yn gyfartal a’r sir Gymreig wedi colli eu wiced olaf oddi ar belen ola’r gêm!

Un rhediad i ffwrdd o record byd! Does neb wedi cwrso sgôr uwch yn llwyddiannus.

Northeast 187

Labuschagne 119

16:38

DIWEDDARIAD

Morgannwg 477 am chwech

116 yn rhagor i ennill.

13:15

CINIO, DIWRNOD 4

Morgannwg 341 am bedair (Labuschagne 119, Northeast 91 heb fod allan).

Mae angen 252 arall arnyn nhw i ennill.

23:18

DIWEDD, DIWRNOD 3

Morgannwg 222 am dair, yn cwrso 593 i ennill.

16:18

TE, DIWRNOD 3

Morgannwg 85 am un, yn cwrso 589 i ennill.

Yn gynharach, Swydd Gaerloyw wedi cau eu hail fatiad ar 610 am bump.

Bancroft 184, Bracey 205 heb fod allan, Hammond 121, Webster 65 heb fod allan

13:10

CINIO, DIWRNOD 3

Swydd Gaerloyw 534 am bump, ar y blaen o 516.

James Bracey 167 heb fod allan. Miles Hammond 121.

18:35

DIWEDD, DIWRNOD 2

Swydd Gaerloyw 388 am dair.

Bancroft 159 heb fod allan, Bracey 90 heb fod allan (Hammond 121).

Ar y blaen o 370 yn erbyn Morgannwg yn eu hail fatiad.

13:10

Diwrnod 2, Cinio – Swydd Gaerloyw 48 am ddwy yn eu hail fatiad.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 197 yn eu batiad cyntaf, gan roi blaenoriaeth batiad cyntaf iddyn nhw o 18.

Mae’r Saeson ar y blaen bellach o 30 rhediad, gydag wyth wiced yn weddill.

19:31

Timm van der Gugten a Marchant de Lange, dau fowliwr oedd wedi cael cryn ddylanwad ar y diwrnod cyntaf.

Pum wiced i van der Gugten a dwy i de Lange. Y ddau yn teimlo bod digon o gymorth yn y llain o hyd i’w gwneud hi’n gyffrous. Ond peidiwch â disgwyl pedwar diwrnod llawn! 17 wiced wedi cwympo heddiw.

18:24

DIWEDD – GOLAU GWAEL

Morgannwg 133 am saith, ar ei hôl hi o 46