Yn Sir Gaerfyrddin, fe fydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal i ddod â stori ffermio yn fyw i dros 1,000 o ddisgyblion ysgol yn ystod tri diwrnod ym mis Gorffennaf.

Bydd digwyddiad ‘Fy Mhlât Bwyd’ yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Sir Gaerfyrddin rhwng 2 a 4 Gorffennaf. Mae’n cael ei drefnu gan Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin, a bydd yn rhoi cyfle i blant ysgol o amrywiaeth o ysgolion lleol i ddysgu am gynhyrchu bwyd yn lleol, pwysigrwydd ffermio a chael amgylchedd iach.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Fwydydd Castell Howell a Hybu Cig Cymru (HCC) a fydd yn darparu gweithdai coginio rhyngweithiol. Byddan nhw’n defnyddio Cig Eidion Cymru PGI, caws Cymreig a chynnyrch lleol i greu pasta bolognese Cig Eidion Cymru.

Pasta bolognese gyda chig eidion Cymreig Llun: Hybu Cig Cymru

Bydd pasta bolognese Cig Eidion Cymru hefyd ar fwydlen ciniawau ysgol ar draws y sir yn ystod yr un wythnos.

Bydd cyfle hefyd i blant weld anifeiliaid fferm byw, peiriannau fferm a chwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn dangos sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, fydd yn coginio Cig Eidion Cymreig yn nigwyddiad ‘Fy Mhlât Bwyd’.