Mae’r Blaid Lafur wedi cael eu cyhuddo o “gamarwain” pleidleiswyr yn un o etholaethau allweddol Gwent, drwy wneud addewidion ar faterion mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb amdanyn nhw.
Ond mae taflenni sy’n addo “torri rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol” a recriwtio athrawon newydd wedi cael eu hamddiffyn gan Catherine Fookes, ymgeisydd yn Sir Fynwy, sy’n dweud bod y ddau beth ymhlith y “materion mwyaf” i bleidleiswyr ac yn ganolog i ymgyrch ei phlaid.
Fe wnaeth David TC Davies, yr ymgeisydd Ceidwadol sy’n anelu i ddal ei afael ar sedd Mynwy y bu’n ei chynrychioli ers 2005, alw’r deunydd etholiadol yn “gamarweiniol” wrth gael ei herio gan Catherine Fookes, sy’n gynghorydd sir ym Mynwy.
‘Twyllo’
“Mae Plaid Lafur y Deyrnas Unedig yn gwybod yn iawn fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn rheoli ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ein hysgolion a’n hafonydd ers 1999,” meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
“Maen nhw’n ceisio twyllo pobol Cymru drwy honni y gallan nhw ddatrys llygredd mewn afonydd a thorri rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Mae’n warthus eu bod nhw’n fwriadol yn camarwain y cyhoedd drwy honni y gallan nhw wella’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a meysydd datganoledig eraill, pan fod Llafur Cymru wedi methu gwneud hynny ar ôl 25 mlynedd.”
Llygredd mewn afonydd
Fe fu llygredd mewn afonydd yn fater amlwg yn Sir Fynwy, gyda phryderon ynghylch dirywiad yn safon afonydd Wysg a Gwy.
Fe wnaeth Fergal Sharkey, cyn-ganwr Undertones ac ymgyrchydd afonydd sy’n gyfrifol am yr ymgyrch ‘Stop the Sh*tshow’ sy’n tynnu sylw at lygredd dŵr, gyfarfod â Catherine Fookes yn Nhrefynwy, gan ei chefnogi hi wrth roi ei gefnogaeth i’r Blaid Lafur.
Gofynnwyd i ymgeiswyr yn ystod hystings yn y Fenni beth fydden nhw’n ei wneud i fynd i’r afael â llygredd mewn afonydd, pan ddisgrifiodd David TC Davies y mater fel un sydd “wedi’i ddatganoli’n llwyr” i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd na ddylai fod yn “bêl-droed wleidyddol”, gan gydnabod fod Llywodraeth Cymru’n ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, er ei fod yn anghytuno â rhai dulliau, gan gynnwys ar fater llygredd amgylcheddol.
Fe fu datganoli pwerau dros ansawdd dŵr, dŵr a charthion yn broses bytiog, a dim ond yn 2017 y cafodd y trefniadau i drosglwyddo rhai pwerau i Gaerdydd eu cymeradwyo.
Yn yr hystings, dywedodd Ioan Bellin, ymgeisydd Plaid Cymru, fod angen o hyd i’r pwerau’n ymwneud â charthion gael eu trosglwyddo i Gymru.
Dywedodd wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol fod y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi llusgo’u traed ar y mater, ond pe bai Llafur yn ffurfio Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr wythnos nesaf, na fydd lle i ddadlau dros gyfrifoldebau.
“Erbyn yr wythnos nesaf, bydd gennym ni Lywodraeth Lafur y ddwy ochr i’r ffin, felly dw i’n gobeithio na fyddan nhw’n beio’i gilydd ac yn bwrw ymlaen â glanhau ein hafonydd.”
Materion datganoledig
Fe wnaeth y Ceidwadwr David TC Davies hefyd amddiffyn y sylw mae’n ei roi i faterion datganoledig, ar ôl dweud ar ddechrau’r ymgyrch y byddai’n tynnu sylw at record Llafur yng Nghymru.
“Mae Keir Starmer wedi nodi mai Cymru, a Llywodraeth Lafur Cymru, yw ‘ein glasbrint ar gyfer gweddill Prydain’, felly mae hi ond yn iawn ein bod ni’n craffu ar yr hyn maen nhw wedi’i wneud i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru,” meddai.
Dywedodd hefyd ei fod e’n “hollol hapus i amddiffyn” record y Torïaid dros y 14 o flynyddoedd diwethaf, a’r “pum mlynedd diwethaf dw i wedi bod yn weinidog”.
Dywedodd nad yw ymosodiadau Llafur ar reolaeth y Ceidwadwyr o’r economi yn dal dŵr, gan ddweud bod gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi wynebu problemau tebyg, gan honni bod gan Brydain adferiad cryfach.
“Gall unrhyw un sydd â ffôn clfar neu fynediad at gliniadur a phum munud i’w sbario chwilio; peidiwch â derbyn fy ngair i. Edrychwch drosoch chi eich hunain.”
Iechyd ac addysg yn “allweddol”
Dywed Catherine Fookes fod iechyd ac addysg yn “rhan allweddol” o’r hyn mae Llafur yn ei gynnig i bobol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
“Dyma ymgais ddespret arall i dynnu sylw oddi ar 14 o flynyddoedd o fethiannau’r Torïaid,” meddai.
“Mae iechyd ac addysg yn ddau o’r materion mwyaf mae pobol yn eu hwynebu bob dydd, ac maen nhw ill dau yn rhan allweddol o’n cynnig i bobol yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
“Gallwn ni droi’r dudalen ar anhrefn y Torïaid os oes gennym ni ddwy lywodraeth Lafur yn cydweithio, yn buddsoddi mewn iechyd ac addysg ac yn tyfu’n heconomi.
“Dyna sut mae newid yn edrych.”