Mae annhegwch y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn San Steffan “yn gliriach nag erioed”, yn ôl ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Pontypridd yn yr etholiad cyffredinol.
Mae’r awyrgylch o gwmpas ymgyrch Plaid Cymru wedi’i deimlo’n bositif ar y cyfan, yn enwedig o gofio’r ymdeimlad ar y dechrau y byddai’n gyfnod “anodd” i’r Blaid yn sgil newid ffiniau etholaethau a gostwng nifer aelodau seneddol Cymru o 40 i 32.
Ers hynny, mae’r arweinydd Rhun ap Iorwerth wedi cael sylw ar ambell i sianel deledu genedlaethol, gan roi’r llwyfan iddo rannu neges y Blaid am “degwch” ac “uchelgais” i Gymru.
Ynys Môn: Colli ffydd a chymdeithas
Un o’r seddi targed amlycaf i Blaid Cymru ydy Ynys Môn.
Yno, mae Llinos Medi wedi bod yn ymgyrchu ar gyfer sedd mewn etholaeth lle mae nifer yn credu ei bod hi’n ras tri cheffyl.
Virginia Crosbie yw’r ymgeisydd Ceidwadol, tra mai Ieuan Môn Williams sy’n sefyll fel ymgeisydd Llafur.
Wrth siarad â golwg360, dywed Llinos Medi nad cymunedau Cymraeg yn unig sydd â theimladau cryfion ynghylch dirywiad cymunedau.
“Mae o’n deimlad sydd yn dod allan o fewn pob cymuned ar yr ynys,” meddai.
“Y teimlad yma ydy, rydan ni’n cael ein gadael ar ôl, a fod yna ddim llais sy’n gallu cynrychioli ardal fel Ynys Môn a deall yr heriau.
“Felly, faswn i ddim yn dweud bod hynny’n unigryw i’r iaith Gymraeg.
“Yn Amlwch, mae lot o’r gymuned yn ddi-Gymraeg, ac mae’r gymuned yn teimlo’n debyg i weddill yr ynys, bod yna golli ffydd mewn gwleidyddion.”
Wrth siarad â chylchgrawn Golwg tua dechrau’r ymgyrch, mae Ieuan Môn Williams yn ategu’r un neges ynglŷn â ffydd mewn gwleidyddion.
Ond mae Llinos Medi yn credu bod modd dweud yr un peth am y Blaid Lafur yng Nghymru.
“Mae gan Lafur gwmwl du mawr drostyn nhw yn y Senedd ar hyn o bryd,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod Llafur yn ffodus iawn ar Ynys Môn.
“Does yna ddim mwy yn cael ei wneud ar y sefyllfa efo Vaughan Gething.”
‘Ffydd trwy dryloywder’
Bu Llinos Medi yn gynghorydd ers 2013, ac yn arweinydd y Cyngor ers 2017.
Mae hi eisiau rhoi pwyslais ar bwysigrwydd tryloywder â’r cyfryngau i bobol, fel ffordd o wella ffydd mewn gwleidyddion.
“Dw i ddim wedi osgoi’r wasg efo’r da na’r drwg,” meddai.
“Mae yna rai gwleidyddion sydd yn osgoi cyfweliadau pan dydy pethau ddim yn dda, ond dw i wedi trio bod yn onest efo’r cyhoedd, beth bynnag ydi’r sefyllfa.
“Ac mae o’n drist pan mae’r cyhoedd yn dweud, ‘Diolch am ateb y cwestiwn’.
“Mae yna ddyletswydd arnom ni i ateb y cwestiynau yma.
“Drwy ateb y cwestiwn, rwyt ti’n cael deialog, a thrwy ddeialog rwyt ti’n magu hyder a pherthynas.”
Cystadleuaeth annisgwyl
Un sedd sydd wedi creu cystadleuaeth, er mawr syndod i ymgeiswyr a sylwebyddion, ydy Pontypridd, sydd wedi ethol ymgeisydd Llafur erioed, heblaw am 1918.
Mewn arolwg barn ar ddechrau’r wythnos, daeth i’r amlwg fod William Rees yn cynnig her ddifrifol i Alex Davies-Jones, sydd wedi bod yn aelod o Gabinet cysgodol Llafur ers 2021.
I William Rees, 25, y gwahaniaeth rhwng yr etholiad hwn ac etholiadau’r gorffennol, er bod y neges yn debyg, yw fod y neges honno’n gliriach oherwydd “annhegwch” y ddwy brif blaid.
“Mae’r neges yn gliriach nag erioed,” meddai wrth golwg360.
“Gyda’r sefydliad yn San Steffan, pwy bynnag fydd yn ennill, pan mae o’n dod i Gymru, fydd yna ddim llawer yn newid.
“Mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn canu o’r un daflen emynau fel, petai, pan mae’n dod i stwff HS2 neu daliadau lles dau blentyn.
“Mae’r annhegwch yna yn gliriach nag erioed, a hynny sydd yn wahanol yn yr etholiad yma, dw i’n credu, ac yn gwneud ein rolau ni fel ymgeiswyr Plaid Cymru yn fwy effeithiol wrth i ni ymgyrchu.”
‘Ymgyrch egnïol a phositif’
Mae William Rees yn credu bod yr ymgyrch ym Mhontypridd wedi bod yn “egnïol” ac yn “bositif”.
“Un o’r pethau sydd wedi bod yn gweithio’n dda yn ystod yr etholiad yma yw’r ffaith bod ein galwadau yn berthnasol i bawb ac i bob man yng Nghymru,” meddai.
Mae Plaid Cymru wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am ymgyrchu mewn ffordd sydd heb fod yn ddigon agored i etholwyr tu hwnt i etholaethau yn y gorllewin.
Pe bai William Rees yn llwyddiannus yn yr etholiad hwn, fydd y rhagfarn honno’n sicr ddim yn cael ei phwysleisio gymaint ag y byddai wedi cael ei phwysleisio yn y gorffennol.