Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eu bod nhw “wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel i drigolion”, yn dilyn cwestiynau ynghylch gwerth am arian.

Yn ddiweddar, fe wnaeth uwch gynghorwyr groesawu’r newyddion bod y sefydliad yn cyflogi mwy o staff sy’n siarad Cymraeg, a’u bod nhw wedi ehangu eu tîm cyfieithu.

Yn dilyn y newyddion hwnnw, fe wnaeth defnyddiwr gwefan Cyngor Caerffili rannu ffigurau gafodd eu casglu drwy gais Rhyddid Gwybodaeth, oedd yn dangos bod ymwelwyr Cymraeg yn cyfrif am lai nag 1% o’r holl ymweliadau â thudalennau gwefan y Cyngor yn 2023.

Wrth siarad â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol, dywedodd y defnyddiwr gwefan hwnnw fod y ffigurau’n “siarad drostyn nhw eu hunain”, a’u bod nhw’n “dangos, waeth pa adnoddau mae Cyngor Caerffili yn eu taflu at y mater, nad yw’n adlewyrchu byd go iawn eu defnyddwyr gwefan”.

Roedd ymweliadau â thudalennau Cymraeg gwefan Cyngor Caerffili yn cyfrif am 0.95% o’r holl ymweliadau â’r wefan y llynedd, sef y ffigurau uchaf yn rhanbarth Gwent, o flaen Sir Fynwy (0.76%) a Thorfaen (0.27%).

Roedd y ffigwr gafodd ei adrodd ar gyfer Blaenau Gwent (0.15%) yn cyfeirio at ail hanner 2023, tra bod y 0.78% yng Nghasnewydd ond yn cyfeirio at ymweliadau â hafan gwefan y Cyngor.

“Er bod ganddyn nhw’r ganran uchaf o ddefnyddwyr gwefan Cymraeg eu hiaith yng Ngwent, mae’n dal i fod yn llai nag un ym mhob cant,” meddai’r defnyddiwr gwefan oedd wedi darparu’r ffiguau, wrth fyfyrio ar gyfradd yr ymweliadau â thudalennau Cymraeg yng Nghaerffili.

“Mae trethdalwyr lleol yn siŵr o ofyn a yw’r fath wariant yn ddefnydd synhwyrol o adnoddau prin, neu ond yn ymarfer ticio bocsys eto i fodloni ‘commissar’ y Gymraeg.”

Ymateb y Cyngor

Mae llefarydd ar ran Cyngor Caerffili wedi amddiffyn record y Cyngor o ran gwasanaethau Cymraeg, fodd bynnag, gan gyfeirio at lwyddiannau gafodd eu crybwyll yng nghyfarfod y Cabinet yn ddiweddar.

“Fel pob corff llywodraeth a chorff cyhoeddus yng Nghymru, mae gofyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gafodd eu cyflwyno o dan Fesur y Gymraeg 2011,” meddai.

“Mae’r Safonau’n rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, ac yn amlinellu’n glir beth yw ein cyfrifoldebau yn nhermau darparu gwasanaethau dwyieithog, gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.”

Noda’r llefarydd mai 2023 oedd y pumed flwyddyn yn olynol i Gyngor Caerffili osgoi unrhyw ymchwiliadau gan Gomisiynydd y Gymraeg am “ddiffyg cydymffurfio”.

Mae’r Cyngor “wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel i drigolion, ar draws ein holl sianeli, gan gynnwys ein gwefan, i wella ein gwasanaethau i gwsmeriaid a sicrhau ein bod ni’n diwallu anghenion ein siaradwyr Cymraeg”, meddai.