Mae Rhun ap Iorwerth wedi ymateb ar ôl i ymgeisydd seneddol Llafur restru Cymru yng nghanol nifer o drefi a dinasoedd Lloegr.

Roedd Rachel Reeves wedi trydar rhestr o drefi a dinasoedd y bu’n ymweld â nhw wrth ymgyrchu dros ei phlaid ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

“Stafford, Swindon, Caerloyw, Cymru, Stockport,” meddai mewn neges ar X (Twitter gynt).

‘Tipyn o restr’

“Mae honno’n dipyn o restr hir o drefi i Ganghellor Llafur ymweld â nhw mewn un wythnos, a bod yn deg,” meddai arweinydd Plaid Cymru wrth aildrydar y neges.

“O, daliwch sownd…

“Cymru gyfan? Am gamp!”

Wrth ateb y neges, dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen o Wynedd fod “Cymru, yn llygaid Llafur, yr un fath ag un dref Seisnig”.

Yn ôl Myfanwy Alexander, mae’r “difaterwch hamddenol yn adrodd cyfrolau”.