Mewn dadl fyw ar CNN yn Atalanta, Georgia, daeth yr hyn sydd wedi bod yn barodi i nifer ar-lein, sef gallu meddyliol yr Arlywydd Joe Biden, i uchafbwynt trist o flaen miliynau o Americanwyr, a phobol ar draws y byd.

Yn ystod y ddadl neithiwr (nos Iau, Mehefin 27), roedd yr Arlywydd Biden i’w weld yn hen ac yn ddryslyd wrth drafod pynciau hanfodol bwysig i gymunedau ledled y wlad. Roedd yr arolwg barn gan CNN yn adlewyrchu hyn, gyda 67% yn rhoi’r fuddugoliaeth i Trump, a 33% yn unig i Biden.

Dydi hyn ddim i ddweud bod Donald Trump wedi medru brolio’i fod yn enillydd chwaith, gyda’r cyn-Arlywydd yn parhau i ddweud celwydd yn agored heb fynd yn ei flaen i drafod y materion efo’r eglurder maen nhw’n ei haeddu.

Ond does dim amheuaeth mai stori’r noson oedd perfformiad yr Arlywydd presennol. Dyma rai o ddyfyniadau ffigyrau mwyaf arwyddocaol y Blaid Ddemocrataidd:

Dw i’n caru Biden, ond mi oedd y ddadl yn dorcalonnus… mae yna banig yn y Blaid Ddemocratiaid.

Maria Shiver, nith y diweddar Arlywydd John F. Kennedy

 

Roedd yn ymddangos yn braidd yn ddryslyd”… a bod yna drafodaethau ynglŷn ag a “fydd Joe Biden yn gallu parhau.

David Axelford, prif strategydd ymgyrch Barack Obama

 

Oedd, mi oedd yna gychwyn araf, ond gorffennodd yn gryf.

Kamala Harris, Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau

Ac yn wir, roedd cwpwl o ddyfyniadau cryf gan Biden ei hun, megis bod gan Trump “foesoldeb cath gefn stryd”.

Ond y cwestiwn nawr yw, beth fydd yn digwydd nesaf i dîm Biden? Roedd hi’n amlwg i bawb oedd yn gwylio fod yr Arlywydd Biden allan o’i ddyfnder yn y ddadl. Efallai bod y ffaith ei fod o wedi gwthio am ddadl gynt na’r arfer yn y broses o’i chymharu ag etholiadau’r gorffennol yn fendith mewn cuddwisg i’r Democratiaid.

Fel mae ambell i sylwebydd ac aelod o’r Democratiaid wedi awgrymu, mae hyn yn rhoi jest digon o amser i fynd yn erbyn confensiwn y blaid, lle mae’r enwebiad yn cael ei gadarnhau ganol mis Awst.

Os bydd newid i drefn yr etholiad, o le fydd y newid yn dod? Y disgwyl ydi mai Biden ei hun fydd yn gorfod penderfynu peidio sefyll, gan nad oes digon o barodrwydd ymhlith yr aelodau i symud yr Arlywydd o’i swydd.

Mae’n amhosib ateb y cwestiynau hyn ar hyn o bryd, ond yr hyn sydd yn glir yw mai enillydd sydd ar ddiwedd hyn i gyd – y dyn ar ochr arall y fainc, Donald Trump.