Rhaid cyfaddef, doeddwn i ddim yn sicr beth i’w ddisgwyl wrth ddechrau ar fy swydd gyda Cymunedoli Cyf. Newydd gael ei sefydlu oedd y cwmni, ac roedd y swydd ddisgrifiad yn un digon amwys.
Serch hynny, roeddwn yn gwybod yn union pam fod swydd yn y maes datblygu cymunedol yn apelio – queue rant wleidyddol!
Waeth pa ffordd rydych chi’n edrych arni, mae pymtheg mlynedd o lymder ariannol wedi golygu bod cynghorau sir a’r sector gyhoeddus yn gyffredinol wedi tynnu allan o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac yn amlach na pheidio mentrau cymunedol sydd wedi camu i’r adwy er mwyn eu cynnal. Ac o ystyried fod gan Gyngor Gwynedd, er enghraifft, fwlch o £15m yn eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn unig, mae’n anochel y bydd rhagor o wasanaethau’n cael eu torri.
Anochel hefyd yw’r ffaith y bydd rhagor o ddibyniaeth ar fentrau cymunedol i ddarparu’r gwasanaethau hyn. Yn yr un modd, mae methiant y farchnad gyfalafol dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod mwy a mwy o alw ar fentrau cymunedol i gamu mewn i’r bwlch er mwyn creu ffyniant economaidd mewn cymunedau.
Mae’n debyg mai’r enghreifftiau amlycaf o hyn yw cymunedau’n dod ynghyd i brynu tafarndai gwledig, ac mae’r ffaith i gymuned Cerrigydrudion godi dros hanner miliwn o bunnoedd mewn ychydig wythnosau er mwyn achub Gwesty’r Llew Gwyn yn dyst i rym economaidd cymunedau.
Mae hi hefyd yn deg dweud bod rhai o’r cwmnïau mwyaf yng Ngwynedd a Môn bellach yn fentrau cymunedol, gydag Antur Waunfawr, Cwmni Bro Ffestiniog a Menter Môn yn dri chwmni sylweddol o ran cyflogaeth. ‘Mae rhywbeth ar droed yma yng Ngwynedd’, meddyliais. A doeddwn i ddim am fethu allan ar y cyfle i chwarae fy rhan. Rant drosodd!
Uchafbwyntiau’r misoedd diwethaf
Beth am y gwaith ei hun, felly? Ffolineb fyddai ceisio crynhoi’r holl waith sydd wedi cael ei wneud ers i mi ddechrau yn y swydd. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn drowynt o fynychu cyrsiau hyfforddi, gweithio ar geisiadau grant, a darparu cefnogaeth o bob math i fentrau cymunedol Gwynedd.
Yn hytrach, fe wnaf i drafod y tri pheth rwy’ wedi mwynhau cael bod yn rhan ohonyn nhw fwyaf hyd yma.
Ddechrau’r flwyddyn, cawsom y dasg – ar y cyd â Chwmni Bro Ffestiniog – o gynhyrchu rhaglen dysgu am ddatblygu cymunedol ar ran Sefydliad Raymond Williams. Yn rhan o’r gwaith, cafodd diwrnod o ddysgu a datblygiad proffesiynol ei gynnal ar gyfer tiwtoriaid, staff cefnogi dysgu, gweithwyr perthynol a gweithwyr datblygu cymunedol, yng Ngwesty Neuadd Maesmawr yng Nghaersws.
Yn bresennol roedd tiwtoriaid a staff cynorthwyol Addysg Oedolion Cymru a thua deg o ymarferwyr datblygu cymunedol. Pleser oedd cael rhannu gweledigaeth Cymunedoli Cyf gyda staff Addysg Oedolion Cymru, yn ogystal â chlywed am brofiadau gweithwyr Cwmni Bro Ffestiniog ac ambell fenter arall o ardaloedd y tu hwnt i Wynedd wrth weithio yn y maes.
Gall gweithio i fenter gymunedol fod yn waith eithaf mewnblyg ar adegau, a hynny oherwydd bod gymaint gan fentrau ar eu platiau, fel ei bod yn anodd cael yr amser i ddysgu am y gwaith mae eraill yn ei wneud yn y maes a’i werthfawrogi.
Felly, dylai unrhyw gyfle i rannu profiadau, arbenigedd ac ymarfer da gael ei groesawu!
Cegin newydd i Porthi Dre
Darn arall o waith rwy’ wedi’i fwynhau yn arw dros y misoedd diwethaf yw gweithio gyda Porthi Dre ar gais grant Grymuso Gwynedd, gyda’r gobaith o adnewyddu eu cegin.
Hwb Cymunedol yng Nghaernarfon yw Porthi Dre, sy’n cefnogi’r gymuned drwy ddarparu bwyd, ailgylchu dillad, cynnal clwb ieuenctid, ynghyd â llu o wasanaethau eraill.
Cefais gefnogaeth amhrisiadwy gan Betsan Siencyn, rheolwr prosiect Menter Môn, wrth fynd ati i ysgrifennu’r cais, a wyddwn i ddim a fyddai wedi bod yn llwyddiannus heb ei mewnbwn.
Ond gyda lwc, cafodd y cais ei gymeradwyo, ac o ganlyniad i’r gwaith adnewyddu sydd nawr yn mynd rhagddo ym Mhorthi Dre mae’r hwb yn gobeithio gallu dyblu’r nifer o bobol y maen nhw’n darparu bwyd iddyn nhw bob wythnos. Fel un gafodd ei fagu yng Nghaernarfon, mae hynny yn destun balchder mawr!
Bwgi ym Mhenygroes
Ymlaen, felly, at y peth olaf dwi am ei drafod yn y blog hwn, gan obeithio eich bod chi’n dal i ddarllen!
Ddechrau mis Mehefin, bu Cymunedoli yn cefnogi ymgynghoriad menter Yr Orsaf ym Mhenygroes ar sefydlu Hwb Treftadaeth a Chelf i Ddyffryn Nantlle. Os yw’n llwyddiannus, bydd gan yr hwb ddwy elfen – un ar ochr dreftadaeth a hanes cymdeithasol yr ardal, a’r llall ar ddatblygu gofod artistig.
Y gobaith yw y bydd yr hwb yn fan cyntaf i bobol leol a thwristiaid ddod i ddysgu am yr ardal a’i hanes. A pha ffordd well o ddenu pobol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn na threfnu gig gerddorol? Roedd Yr Orsaf yn cydweld, felly dyma fynd ati i fwcio’r band gwych o Lŷn, Pys Melyn, a DJ Melys, creu poster ar gyfer y noson a hyrwyddo full pelt.
Bu’r noson yn llwyddiant, gyda thrawstoriad o bobol ifanc, canol oed a hŷn Penygroes a Nantlle yn dod ynghyd i fwynhau’r adloniant – oedd yn rhad ac am ddim – yn ogystal â rhannu barn am sefydlu Hwb Treftadaeth a Chelf yn eu milltir sgwâr.
Roedd y darn yma o waith yn wahanol iawn i’r ddwy enghraifft rwy’ wedi’u trafod uchod, ond mae’n debyg mai dyna natur swydd fel hon. Does dim un ffordd benodol o wneud pethau, oherwydd mae pob cymuned yn wynebu heriau gwahanol, ac mae’r hyn mae pob menter gymunedol yn ei gynnig yn unigryw. Mae’r gallu i fod yn hyblyg a cheisio ffeindio datrysiadau amgen yn hanfodol mewn swydd fel hon, ond dyna sy’n ei gwneud hi’n swydd mor ddifyr.
I gloi
Ydyn, mae’r misoedd ers dechrau ar fy swydd gyda Cymunedoli Cyf. wedi bod yn drowynt.
Dw i wedi dysgu lot o sgiliau newydd, wedi cael fy ysbrydoli gan bob math o wahanol bobol, a dwi’n gobeithio ein bod ni, fel cwmni, wedi gwneud rhyw fath o wahaniaeth.
A dwi’n gobeithio mai megis dechrau mae’r siwrne!