Mae cais wedi’i gyflwyno i ddymchwel hen ffatri injanau Ford ar ystad ddiwydiannol Waterton ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Daw’r cynlluniau i’w ddymchwel fisoedd yn unig ers y cyhoeddiad fod y safle enfawr wedi’i gaffael gan gwmni canolfan ddata Americanaidd, Vantage Data Centres, sydd eisoes yn rhedeg dwy ganolfan ddata yng Nghaerdydd.
Cafodd y safle, ryw ddwy filltir o ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ei gau gan Ford fis Medi 2020 ar ôl cynhyrchu dros gyfnod o 40 mlynedd, a chafodd y penderfyniad ei alw’n ergyd drom i weithwyr ar y pryd.
Ond bellach, gallai weld “datblygiad hirdymor” canolfan ddata newydd, sydd fel arfer yn cael eu defnyddio gan gwmnïau mawr i storio, prosesu a rheoli data sylweddol.
Ymateb cwmni Vantage
Eisoes, mae llefarydd ar ran Vantage wedi cadarnhau wrth WalesOnline eu bod nhw wedi caffael y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ychwanegu nad oedd modd darparu rhagor o wybodaeth am y prosiect ar y pryd.
“Mae Vantage wedi caffael hen ffatri injanau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer datblygiad hirdymor,” meddai llefarydd.
“Fel busnes gafodd ei sefydlu yng Nghymru yn 2007, mae Vantage wedi cyffroi ynghylch y cyfle hwn i ehangu, ac yn edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i greu effaith bositif ar yr economi a’r gweithlu lleol a thu hwnt.”
Cyn i unrhyw ddatblygiad ddechrau, mae’n debygol y bydd y ffatri’n cael ei dymchwel, yn ddibynnol ar sêl bendith awdurdod cynllunio Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, gydag amserlen waith sy’n cynnwys dymchwel pob strwythur uwchben y ddaear, symud unrhyw gyfarpar sydd dros ben, ynghyd â dileu unrhyw strwythurau slab a thanddaearol.
Mae disgwyl iddi gymryd ychydig dros flwyddyn i gwblhau’r gwaith, gydag amcangyfrif mai Medi 2025 fydd y dyddiad gorffen.