Mae gweithwyr ar safle dur Tata ym Mhort Talbot wedi cael gwybod y gallai’r safle gau ei ddrysau am y tro olaf erbyn Gorffennaf 7.

Daw hyn o ganlyniad i streic gan Uno’r Undeb.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i un o’r ffwrneisi chwyth ar y safle gau erbyn diwedd y mis yma, ac i’r ail ddod i ben erbyn mis Medi.

Ond oherwydd y streic, dywed penaethiaid nad oes sicrwydd y bydd digon o adnoddau ar y safle i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Dywed yr undeb fod penaethiaid Tata yn bygwth gweithwyr, ac na fydd hynny’n eu hatal nhw rhag gweithredu.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim chwaith yn cefnogi penderfyniad y penaethiaid i gau’r ffwrneisi.

Streic

Mae disgwyl i’r streic ddechrau ar Orffennaf 8.

Y gred yw y bydd hyd at 1,500 o weithwyr yn gweithredu’n ddiwydiannol, a does dim terfyn amser wedi’i nodi ar gyfer dirwyn y streic i ben.

Gallai hyd at 2,800 o weithwyr golli eu swyddi pan fydd y cwmni’n cau’r ffwrneisi chwyth.

Dywed llefarydd ar ran Tata mai’r cam naturiol nesaf iddyn nhw yw cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr undeb yn sgil y streic, ac wedyn dirwyn y gwaith ar y safle i ben ond nad ar chwarae bach y bydden nhw’n gwneud y penderfyniad hwnnw.

Mae Tata wedi ategu eu galwad ar i Uno’r Undeb roi ystyriaeth i’r sefyllfa, fel mae undebau Community a’r GMB yn ei wneud.

Ond yn ôl yr undeb, maen nhw’n “brwydro dros ddyfodol y diwydiant dur”, ac mae’r GMB yn galw ar Tata i “gymryd cam yn ôl” o’r penderfyniad i gau’r safle.

Mae’r Blaid Lafur hefyd yn galw ar Tata i ohirio’u penderfyniad tan ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r newyddion yn “siomedig”, ac mae Plaid Cymru’n galw am ddod â dur o dan reolaeth Llywodraeth nesa’r Deyrnas Unedig.

‘Llawdrwm’

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae Tata wedi mabwysiadu “dull llawdrwm diangen sydd wedi ychwanegu rhagor o danwydd ar ben y tân”.

“Fydd eu bygythiad i gau’r safle yn gynt na’r amserlen yn gwneud dim i dawelu nerfau’r gweithwyr hynn sydd eisoes mewn perygl o golli eu bywoliaeth,” meddai.

“All ein gweithwyr Cymreig ddim cael eu taflu i’r naill ochr a’u trin fel niwed cyfochrog; pobol go iawn ydyn nhw sy’n ymdopi ag esgeuluso ac amddifadu gan y llywodraeth.”

Ychwanega y bydd cynlluniau Tata yn “drychineb economaidd i filoedd o weithwyr, eu teuluoedd, a chymuned gyfagos Port Talbot”, ac yn achosi “argyfwng iechyd meddwl allai weld cynnydd difrifol yn y perygl o hunanladdiad”.

“Nid dim ond waled pobol sydd mewn perygl yma, ond eu bywydau,” meddai.

“Rhaid bod gennym ni gynllun cynhwysfawr, wedi’i adeiladu mewn cydweithrediad â’r gweithwyr, sydd nid yn unig yn darparu ailhyfforddiant ond sicrwydd ariannol ac urddas hefyd.

“Allwn ni ddim fforddio rhoi’r allweddi i Tata ac aros am y gwymp sydd i ddod.

“Rhaid i ni weithredu rŵan er lles cymuned Port Talbot.”