Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y maethegydd, Angharad Griffiths, sy’n un o ddau arbenigwr ar y gyfres trawsnewid iechyd newydd, Tŷ FFIT, ar S4C, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Angharad, 45 oed, yn dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol ond bellach yn byw ym Methesda yng Ngwynedd. Mae hi’n arbenigo mewn perthynas pobl efo bwyd, colli pwysau ac iechyd y perfedd. 

Angharad Griffiths yn ei chegin

Bob Nadolig mae cegin Mam yn troi mewn i ffatri mins peis! Mae fy Mam yn dipyn o gogydd ac yn gwneud y mins peis gore yn y byd a bob tro yn gwneud llwyth a’i rhoi yn anrhegion – mae hi dal yn gwneud hyn hyd heddiw!  Mae hi wedi arbrofi gyda lot o pastries gwahanol ond wastod yn dod ’nôl i un sydd wedi bod yn y teulu ers dros ganrif. Pan o’n i’n ferch fach ac yn byw yng Nghenarth (cyn symud i fyw i Gaerfyrddin) o’n i ryw 18 mis oed ac oedd Mam wrthi’n gwneud y mins peis ac mae’n debyg wnaeth hi adael pentwr i “cwlio” reit ar bwys fi mewn cadair uchel…. Aeth hi off i neud ryw joban a dod ’nôl ac o’n i wedi bwyta nhw gyd!

Angharad gyda ‘Gu’ ar y traeth

Roedd fy rhieni yn hoff iawn o gael dinner parties – lot o fwyd a gwin! Fel o’n i’n son, mae gan Mam dipyn o culinary skills a fyse hi’n creu pryd tri chwrs anhygoel bob tro. O’n i wastad yn cael helpu a gosod y bwrdd. Oedd cael table manners yn bwysig iawn a gwybod pa gyllell a fforc a ballu i fwyta’r prydau gwahanol. Daeth hyn yn handi i mi nes mlaen mewn bywyd pan o’n i’n gweithio fel waitress! O’n i wastad yn meddwl fysen i’n berson oedd yn cael dinner parties ‘fyd (fel ffan o’r gyfres deledu Come Dine With Me), ond, a deud y gwir, fedra’i ddim meddwl am ddim byd gwaeth – y stress, y golchi llestri, y mess, yr anxiety os ydy pobl yn hoffi’r bwyd – lot haws jest trefnu mynd mas i fwyty! Wedi gweud hynny, dw i yn casglu llyfrau coginio mewn rhyw obaith fyddai’n coginio i ffrindiau ryw ddydd.

Pan dw i’n rhoi fy meddwl iddi, dw i’n gogydd oce-ish. Ac mae hynna lawr i Mam yn gadael i fi goginio o oed ifanc. O tua 11 oed mi oeddwn i’n cael coginio prydau i’r teulu ac, erbyn fy arddegau, o’n i reit annibynnol yn y gegin ac yn coginio pethe ar wahân i’r teulu (achos o’n i wedi dechre mynd ar diets erbyn ‘ny ac ishe bod in control o fy mwyd ond dyma, yn sicr, lle dechreuodd y diddordeb mewn maeth).

Siocled ydi fy mwyd cysur i bob tro. Er fy mod i’n trio peidio defnyddio’r gair ‘cysur’ o gwmpas bwyd efo fy hun a chleientiaid (i helpu i wella perthynas pobl efo bwyd), mae’n oce defnyddio bwyd fel cysur weithiau – mae jest angen bod yn ofalus nad dyna eich unig ffodd o gysuro’ch hun. Wnes i ddefnyddio bwyd i gysuro fy hun am 30 mlynedd (a dim mewn ffordd iach!). Ond dw i dal i droi at siocled weithie – Terry’s Chocolate Orange, Lindt Lindor neu Tony’s Chocolonely Sea Salt ydi’r ffefryn ar y funud. W, a Mini Eggs! Dw i hefyd yn caru cyfuniad o felys a hallt – fel peanut butter a siocled.  Dw i’n gwneud bisgedi sinsir melys a hallt hefyd sydd fel nefoedd.

Fy hoff fwyd ydi pizza go iawn – rydan ni wedi bod reit lwcus yma ym Methesda – mae wastad fan pizza fresh yma. Flame and Grain ydi’r cwmni, ac mae gyda nhw fan ger siop gaws Cosyn Cymru.  Mi oedd y perchennog wedi trefnu noson Pizza a Reggae nos Sul diwethaf – bwyta pizza tu fas, plant yn rhedeg o gwmpas a rhoi traed yn yr afon a cherddoriaeth yn y cefndir – joio!  Bydden i’n dwlu mynd i’r Eidal ryw ddydd i flasu pizza go iawn yn fan’na.  Dw i fel arfer yn cael Margherita plaen (achos os ydy o’n pizza da, s’dim byd fel y blas syml o domatos, mozzarella  a basil – ond dw i hefyd yn ffan o Puttanesca – efo ansiofis ac olifau hallt).

S’dim byd fel neud y batch cyntaf o gawl (neu lobsgóws i’r gogs) i wybod bod y tymor wedi troi.  Yr unig broblem yw, dydi Bleddyn, fy ngŵr, ddim yn ffan o winwns a chennin, felly prin dw i’n neud dyddie yma achos s’dim pwynt heb rheiny. Ond s’dim byd fel dipio bara ffres, efo haen drwchus o fenyn hallt, i fowlen o gawl i wybod bod hi’n oer tu fas!

Os dwi’n gwahodd y teulu draw am fwyd – dw i’n ddiog. Dw i’n dueddol o rostio cig o ryw fath (cyw iâr gyfan neu drumsticks mewn marinade) ac wedyn gwneud lot o wahanol salads. Bwyd pigo! Os dwi’n gwahodd pobl draw dwi ishe bod yn eu cwmni nhw, nid yn y gegin yn slafio – felly well gen i wneud rhywbeth rili hawdd a medru eistedd wrth y bwrdd a mwynhau efo pawb.  Dw i’n mwynhau gwneud pwdin – wnes i Queen of Puddings ar Sul y Tadau eleni (ffefryn Dad o’i blentyndod).  Dw i hefyd yn caru unrhyw bwdin efo lemwn ynddi neu’r clasur, crymbl afal.

Hoff lyfr ryseitiau Angharad – Sea Salt gan Halen Môn

Dw i’n caru’r llyfr coginio Sea Salt gan Halen Môn ac mae’r bisgedi bach sinsir anhygoel yn hwnna. Dw i’n gwneud rheina’n eitha’ aml ac yn rhoi nhw fel anrhegion adeg Dolig (dydi mins peis fi ddim patch ar rai Mam!).

Angharad Griffiths

Mae cynhyrchwyr Tŷ FFIT yn chwilio am bobl 18 oed a hŷn sy’n siarad Cymraeg sydd eisiau newid eu bywydau er gwell, colli ychydig o bwysau a theimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Bydd y gyfres yn cael ei chyflwyno gan Lisa Gwilym ac fe fydd yn dechrau ffilmio ym mis Medi.

Gall pobl sydd eisiau cymryd rhan wneud cais yn www.s4c.cymru/tŷffit cyn y dyddiad cau ar ddydd Mercher, 15 Gorffennaf.