Bydd gorymdaith Balchder yn cael ei chynnal yn un o drefi Ynys Môn am y tro cyntaf eleni.

Fe wnaeth Balchder Caernarfon ychydig wythnosau’n ôl “wireddu breuddwyd”, medd y trefnwyr, sy’n edrych ymlaen at yr orymdaith nesaf yn Llangefni.

Bydd yr orymdaith yn cael ei chynnal yn Ynys Môn ar Orffennaf 20, ac yn ôl Stacy Winson, Trysorydd a Chyswllt Cymru Pride Wales, mae’n “briliant” bod digwyddiadau fel hyn yn dod i leoliadau fel Llangefni.

Nod Balchder Gogledd Cymru yw ceisio cyrraedd cymunedau ymylol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle gall pobol yn teimlo’n ynysig.

“Be rydyn ni’n ei ffindio efo lot o’r llefydd rydyn ni’n mynd iddyn nhw ydi bod y llefydd yma wedi cael rhyw fath o ymosodiad yn erbyn pobl LHDTC+,” meddai Stacy Winson wrth golwg360.

“Felly i fynd i rywle a dweud ‘rydyn ni yma’, mae’n gwneud gwahaniaeth aruthrol.”

Dywed hefyd bod digwyddiadau o’r fath “mor bwysig” oherwydd bod rhai pobol yn teimlo nad oes cymuned o’u hamgylch mewn ardaloedd gwledig.

“Mae’r digwyddiad yma yn gwneud i bobol sylwi bod ganddyn nhw gefnogaeth a ffrindiau o’u hamgylch, ac [yn gwneud iddyn nhw] deimlo’n gyfforddus ynddyn nhw eu hunain,” meddai.

‘Cyfle i ddathlu’

Eglura’r trefnwyr bod y digwyddiad yn gyfle i ddathlu cymuned drwy amrywiaeth o weithgareddau ac arddangos talent LHDTC+ lleol, ynghyd â meithrin ymgysylltu cymunedol ac addysgu pobol.

Er y bydd stondinau yn agor am 11 y bore, bydd y Parêd yn dechrau gorymdeithio am 1 y prynhawn, gan gychwyn o faes parcio y Dingle cyn mynd o amgylch y dref a gorffen ger Neuadd y Dre a Gwesty’r Bull.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn canu yno, mae Reillo, Melda Lois, Catrin Herbert ac Anniben, a bydd sesiwn barddoniaeth balchder yn cael ei gynnal gyda’r nos hefyd.