Mae angen i Vaughan Gething gyhoeddi’r dystiolaeth wnaeth ei gymell i ddiswyddo un o aelodau ei gabinet, medd Plaid Cymru.
Mewn datganiad yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 9), dywedodd Hannah Blythyn na chafodd weld unrhyw dystiolaeth cyn cael ei diswyddo.
Cafodd y cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol ei diswyddo gan Vaughan Gething ym mis Mai, wedi i’r Prif Weinidog ei chyhuddo o ryddhau gwybodaeth i’r cyfryngau.
Cafodd ei chyhuddo o rannu negeseuon rhwng gweinidogion a ddatgelodd fod y Prif Weinidog wedi dileu negeseuon cyfnod Covid er mwyn osgoi deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth.
Mae Hannah Blythyn wedi gwadu hynny o’r dechrau, ac fe ategodd hynny ddoe.
‘Rhaid cyhoeddi’r dystiolaeth’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, mae wedi sgrifennu at Vaughan Gething ddoe yn gofyn iddo esbonio wrth y Senedd beth yn union ddigwyddodd.
“Fe wnaeth ddoe ein hatgoffa bod rhaid i ni boeni am lesiant ein gilydd ar draws ffiniau pleidiol,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth BBC Radio Wales fore heddiw (Gorffennaf 10).
“Fe wnaeth Hannah Blythyn ddangos cryn ddewrder wrth siarad ddoe, ond roedd yr hyn ddywedodd hi’n tanlinellu’r anghysondebau rhwng ei fersiwn hi o’r digwyddiadau a’r hyn mae’r Prif Weinidog wedi bod yn ei ddweud.
“Rhaid mynd at wraidd hyn, a dyna pam fy mod i’n gofyn i’r [Prif Weinidog] gyhoeddi’r dystiolaeth.”
Ychwanega Rhun ap Iorwerth bod angen gweld y dystiolaeth er mwyn adeiladu ffydd pobol mewn gwleidyddiaeth.
Siaradodd Hannah Blythyn am effaith digwyddiadau’r ychydig fisoedd diwethaf ar ei llesiant, gan ddweud bod y cyfnod wedi bod yn “niweidiol iawn” ar lefel bersonol ac wedi arwain at “bryder a straen aciwt”.
“Fe wnaeth hi wneud y penderfyniad ddoe i ddod i’r Senedd achos yn amlwg mae hyn yn bwysig iddi,” meddai Rhun ap Iorwerth ar y radio.
“Fe wnaeth hi ddweud mewn termau emosiynol iawn sut mae hyn wedi effeithio arni hi’n bersonol, ac effeithio ar ei llesiant hi.
“Dw i’n gyrru pob cryfder iddi hi fore heddiw, wrth iddi ddelio â’r bennod anodd hon yn ei bywyd.
“Fe wnaeth hi wneud hyn yn gyhoeddus oherwydd ei bod hi eisiau i’r mater gael ei ddilyn.”
‘Rhaid iddo ddiswyddo’
Dywed Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, ei bod hi am ddiolch i Hannah Blythyn am y “dewrder eithriadol” ddangosodd ddoe.
“Mae ei beirniadaeth am y ffordd gafodd hi ei diswyddo o’i chyfrifoldebau’n dystiolaeth bellach o’r diffyg atebolrwydd a thrylowyder sydd wedi cymylu cyfnod Vaughan Gething fel Prif Weinidog,” meddai Jane Dodds.
“Mae’r Prif Weinidog wedi colli hyder y Senedd yn barod, er lles democratiaeth Cymru rhaid iddo ddiswyddo.”
Fe wnaeth y Prif Weinidog golli cynnig o ddiffyg hyder yn y Senedd ddechrau Mehefin, wedi i Hannah Blythyn a Lee Waters fethu’r bleidlais yn sgil salwch.
‘Llond bol’
Heddiw, byddd y Ceidwadwyr Cymreig yn cael gofyn i Vaughan Gething wneud datganiad ar y mater yn y Senedd drwy holi cwestiwn amserol.
“Mae pobol Cymru wedi cael llond bol ar y Prif Weinidog yn osgoi craffu,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y blaid yn y Senedd.
“Y saga hon yw un o’r prif resymau pam y collodd Vaughan Gething bleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, ac eto dyw’r saga heb ei datrys.
“Os nad yw’r Prif Weinidog yn gwneud datganiad pellach ar y mater pwysig hwn, byddwn yn archwilio ffyrdd o ddod ag e i’r Senedd.”