Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £3.2m i wneud gwaith atgyweirio ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r cyllid yn rhan o £3.7m o arian ychwanegol sy’n cael ei glustnodi ganddyn nhw i “sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu”.

Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol dwys ac wedi gweithredu i wella’r sefyllfa.

Mae £500,000 arall wedi’i ddyfarnu i wella cyfleusterau storio a diogelu casgliadau pwysig mewn amgueddfeydd ac archifau lleol ac annibynnol.

Bydd cyllid hefyd yn parhau i gael ei fuddsoddi i ailddatblygu safle Amgueddfa Cymru yn Llanberis.

Uchelgeisiol ar gyfer y sector

Dywed Lesley Griffiths bod “ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n horielau yn rhannau hanfodol o fywyd diwylliannol yng Nghymru a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i’w diogelu hwy a’u casgliadau er budd pobl ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol.

“Bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau a dewisiadau anodd, fodd bynnag, y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw helpu i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol, boed yn fawr neu’n fach, yn genedlaethol neu’n lleol.”

Ni fydd modd felly i fuddsoddi mewn “oriel angor” ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru nag Amgueddfa newydd Gogledd Cymru ar hyn o bryd.

Y syniad yw bod yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn cael ei chynnal ar wasgar, ar yn ôl Llywodraeth Cymru mae hynny’n rhoi mwy o fynediad i’r casgliad cenedlaethol gan ddod â chelf gyfoes yn agosach at gymunedau.

Noda Lesley Griffiths eu bod wedi bod yn “onest am yr heriau ariannol rydyn ni’n eu hwynebu ond nid yw hyn yn ein hatal rhag bod yn uchelgeisiol ar gyfer y sector”.

Mae’r llywodraeth am barhau i fuddsoddi yn y gwaith sylweddol o ailddatblygu Theatr Clwyd yn Sir y Fflint ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam.

Maent am gydweithio’n agos efo Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’r materion cynnal a chadw ehangach sydd yno hefyd.

Trysorau sy’n perthyn i genedl

Dywed Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, eu bod yn croesawu’r buddsoddiad newydd hwn, “a fydd yn mynd tuag at waith adnewyddu hanfodol i adeilad y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth”.

“Mae’r casgliad cenedlaethol sy’n cael ei gadw yma yn drysor sy’n perthyn i’r genedl a bydd yr arian yn galluogi gwaith y mae mawr angen ei wneud,” meddai.

“Bydd cwblhau’r gwaith hwn yn golygu bod y casgliadau’n ddiogel yn y tymor hir a byddant yn sicrhau mynediad iddynt i genedlaethau’r dyfodol.”

Atega Jane Henderson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, eu bod mor falch bod y llywodraeth yn “cydnabod pwysigrwydd gofalu am gasgliadau sydd mewn amgueddfeydd ac archifau lleol.