Mae llwyddiant polisi sy’n annog pobol i gadw enwau Cymraeg ar dai yng Ngheredigion yn “gam ymlaen wrth amddiffyn enwau lleoedd”, medd arbenigwr yn y maes.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae polisi gafodd ei gyflwyno yn 2015 yn helpu’r sefyllfa.

Y llynedd, dim ond un cais dderbyniodd y Cyngor i newid enw cartref o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Yn ôl yr adroddiad, sydd wedi’i roi gerbron aelodau Pwyllgor Iaith Cyngor Sir Ceredigion heddiw [dydd Mercher Gorffennaf 10], mae nifer y ceisiadau wedi gostwng bob blwyddyn ers 2020.

Bwriad y Polisi Enwi a Rhifo Stryd yw annog perchnogion tai i ystyried bod gan enwau Cymraeg bwysigrwydd yn ogystal â gwreiddiau ieithyddol.

Rhaid i unrhyw un sydd eisiau ailenwi eu cartref roi gwybod i’r Cyngor am eu bwriad, a byddan nhw’n derbyn llythyr safonol sy’n rhoi deng niwrnod iddyn nhw “ailystyried”.

“Cam ymlaen”

Wrth siarad â golwg360, dywed Dr James January-McCann, Swyddog Enwau Llefydd gyda’r Comisiwn Brenhinol, fod “polisi Ceredigion yn gam ymlaen wrth amddiffyn enwau lleoedd Cymru ac mae llwyddiant y polisi’n dangos hynny’n glir”.

Dylai fod gan bob Cyngor yng Nghymru bolisi tebyg i Geredigion o dan y canllaw ar bolisïau enwi ddaeth i rym yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar ddefnydd ac amddiffyniad enwau lleoedd a bydd yr ymchwil honno’n cefnogi’r Llywodraeth wrth iddyn nhw ystyried pa gamau pellach sydd angen eu cymryd.

“Os yw Ceredigion wedi dangos bod modd dwyn perswâd ar bobol yn effeithiol, mae hynny’n bwysig i ni wybod.”

Dr James January-McCann

Dr James January-McCann sy’n gyfrifol am gynnal a chadw rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Cymru.

Yn ddiweddar, mae wedi cychwyn prosiect newydd, ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn casglu enwau er mwyn eu cofnodi a’u hamddiffyn.

“Heb os, mae enwau Cymraeg yn rhan annatod o’n treftadaeth ac yn tystio i fodolaeth, hanes a diwylliant y Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad yw’n iaith hyfyw bellach,” meddai.

“Os ydyn ni’n colli enwau lleoedd, rydym yn colli’r holl hanes sy’n cyd-fynd â nhw. Mae’n dileu Cymreictod oddi ar y map.”

Ffigurau

Pan gyflwynodd Cyngor Ceredigion y polisi, fe wnaethon nhw dderbyn 93 cais i enwi tai newydd i’r Gymraeg a 17 cais i enwi tai newydd yn Saesneg.

Eleni, dim ond un cais dderbyniodd y Cyngor i newid enw cartref o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Cafodd y mwyafrif o’r ceisiadau eu derbyn rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, i newid o’r Saesneg i’r Gymraeg, neu roi enw Cymraeg newydd ar dŷ sydd eisoes ag enw Cymraeg.

Yn yr adroddiad, sydd wedi’i ddyfynnu ar wefan BBC Cymru Fyw, dywed y Cyngor fod ganddyn nhw “enghreifftiau o drigolion o Loegr, sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar, yn gwneud cais i newid enw eu heiddo Saesneg i’r Gymraeg”.

O ran enwi cartrefi newydd, saith cartref gafodd eu henwi yn Saesneg o gymharu â 102 yn Gymraeg.

Dywed y Cyngor ei bod yn “ymddangos bod y llythyr i ystyried cyd-destun newid enw’r eiddo wedi dylanwadu ar bobol”.

Ond maen nhw’n pwysleisio bod gan berchennog yr hawl i roi unrhyw enw o fewn rheswm ar dŷ, a hynny mewn unrhyw iaith.

‘Angen gofal’

Rhybuddia Dr James McCann fod atal pobol rhag rhoi’r enw maen nhw’n ei ddewis ar eu tai yn mynd “yn groes i’w hawliau dynol”.

Felly, mae angen bod yn “ofalus iawn wrth ddeddfu”.

“Os ydyn ni’n gallu esbonio i bobol pam fod enwau hanesyddol mor bwysig, fel mae enghraifft Ceredigion yn ei ddangos, rydyn ni’n gallu’u perswadio nhw i’w cadw o’u gwirfodd, yn hytrach na’u gorfodi.

“Bydd hynny’n gwneud iddyn nhw werthfawrogi enwau Cymraeg yn fwy yn y pen draw.”