Ers i Lafur ddod i rym ddydd Gwener (Gorffennaf 5), mae Keir Starmer wedi cyhoeddi ei gabinet cyntaf, ac mae’r gweinidogion wrthi’n gosod eu gweledigaethau yn eu meysydd.

Mae’r Prif Weinidog newydd ar ei ffordd i’r Unol Daleithiau heddiw (Gorffennaf 10) i gyfarfod Joe Biden, arlywydd y wlad.

Ar ôl hynny, bydd yn mynd i gyfarfod NATO ar amddiffyn hefyd, ac mae wedi dweud wrth ohebwyr bod ei gynllun i gynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% “yn un pendant”.

Yn Llundain, mae cannoedd o Aelodau Seneddol yn parhau i gael eu derbyn i Dŷ’r Cyffredin.

‘Symud yn eithaf cyflym’

Ymysg rhai o’r cyhoeddiadau mae’r llywodraeth newydd eisoes wedi’i wneud, mae codi’r gwaharddiad ar adeiladu ffermydd gwynt ar y tir a chael gwared ar y cynllun i yrru rhai ceiswyr lloches i Rwanda.

Mae Keir Starmer wedi “symud yn eithaf cyflym”, yn debyg i Tony Blair yn 1997, medd y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.

“Dyw’r [newid llywodraeth] ddim yn teimlo’n rhyfedd. Mae e wedi teimlo’n eithaf naturiol – ac efallai’n arwyddocaol o sut mae Keir Starmer am lywodraethu,” meddai Theo Davies-Lewis.

“Be rydyn ni wedi’i weld yn gynnar iawn ydy anelu’r sectorau a’r pwyntiau fydd yn bwysig iawn i’r llywodraeth dros y blynyddoedd cyntaf.

“Felly’r Gwasanaeth Iechyd, yr un mwyaf pwysig fi’n credu – roedd Wes Streeting newydd gael ei apwyntio [yn Weinidog Iechyd], ac roedd o’n dweud bod y Gwasanaeth Iechyd wedi torri, ac mae hynny’n eithaf cryf.”

‘Rhethreg debyg i Liz Truss’

Un arall sydd wedi gosod gweledigaeth am adeiladu tai a chodi’r gwaharddiad ar adeiladu ffermydd gwynt yw’r Canghellor Rachel Reeves.

Mae hi hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd y sector breifat wrth sicrhau tyfiant economaidd.

Ar hyn, dywed Theo Davies-Lewis bod y rhethreg ddim rhy wahanol i un llywodraeth Geidwadol Liz Truss, fu’n Brif Weinidog am tua 40 niwrnod yn 2022 cyn gadael dan gwmwl yn sgil ansefydlogrwydd economaidd.

“Mae’r sôn yma wedi bod am yr angen am economi newydd yma ym Mhrydain, a rhethreg eithaf tebyg i gymharu â Liz Truss, sef y tyfu a’r twf yma yn yr economi.

“O safbwynt hynny, does yna ddim llawer o wahaniaeth yn rhethreg Keir Starmer a Liz Truss, a fi’n credu bod o’n dangos i chi bod popeth yn ymwneud â sut rydych chi’n dod â’r neges ar draws, a hefyd y cyd-destun o gael mwyafrif mawr yn San Steffan [fel sydd gan Llafur nawr].

“Maen nhw’n cynllunio am y degawd nesaf mewn pŵer, achos dyna’r cyfnod maen nhw’n meddwl bod rhaid iddyn nhw gael i newid Prydain, a fydd o’n ddiddorol cael gweld be mae hyn yn feddwl i ni yma yng Nghymru hefyd.”

Vaughan Gething yn “broblem fawr” i’r Blaid Lafur

Mae sefyllfa ansicr Vaughan Gething fel Prif Weinidog yn “broblem fawr” i’r Blaid Lafur, meddai Theo Davies-Lewis.

Ddoe, fe wnaeth Hannah Blythyn, gafodd ei diswyddo gan Vaughan Gething ar honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i’r wasg, ddatganiad i’r Senedd. Ynddo, gwadodd eto iddi rannu’r wybodaeth a dywedodd nad ydy hi wedi gweld y dystiolaeth yn ei herbyn.

Collodd Vaughan Gething bleidlais o ddiffyg hyder fis Mehefin, ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi galw arno eto i ymddiswyddo heddiw.

“Fi’n deall pam mae ffigyrau fel Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cefnogi Vaughan Gething, achos mae o’n gwneud synnwyr iddyn nhw ralïo tu ôl iddo fe,” meddai Theo Davies-Lewis, fu’n siarad â golwg360 cyn datganiad Hannah Blythyn.

“Dw i ddim yn gweld y strategaeth yn gallu parhau i’r dyfodol.

“Yng nghyd-destun Bae Caerdydd, mae o’n anodd ac yn gymhleth iawn ac mae yna grŵp Llafur gwahanol i gymharu efo beth sydd yn San Steffan.

“Fi’n credu bod be sydd wedi digwydd yng Nghymru dros y chwe wythnos diwethaf gyda llais Reform yn torri ar draws yn glir iawn mewn llefydd fel Llanelli, gyda mwyafrif bach iawn i Lafur, [yn ychwanegu at y sefyllfa].”

Enillodd Nia Griffith y sedd yno o 1,500 pleidlais, gyda Gareth Beer o Reform yn dod yn ail.

“Efallai bod ffigyrau o fewn y Blaid Lafur ddim wedi sylweddoli ar y cymhlethdod maen nhw’n ei wynebu.

“Fi’n credu bod yna lot yn digwydd efo’r patrymau pleidleisio yng Nghymru, a dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yna her fawr i’r Blaid Lafur greu ryw fath o egni a nerth.

“Bydd Starmer yn gobeithio bydd o’n gallu newid y berthynas rhwng Cymru a San Steffan, a chyflwyno polisïau sydd yn gwneud rhyw fath o wahaniaeth i bobol.

“Ond i ryw raddau dydy o ddim i wneud â pholisi, mae o i wneud â’r cymeriadau yna, a does ddim digon o gyllideb gan Vaughan Gething – ac mae o’n dangos pan mae gennych chi’r distruptors yma fel Reform, maen nhw’n gallu torri ar draws y sŵn.”