Byddai fferm wynt naw tyrbin rhwng Corwen a’r Bala yn gallu darparu trydan i 48,000 o gartrefi, medd cynllunwyr.

Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio heddiw (Gorffennaf 10) i gasglu barn am gynlluniau cwmni ynni RWE ar gyfer Fferm Wynt Gaerwen.

Yn ôl y cynlluniau, byddai gan y fferm wynt gapasiti o hyd at 59 MW. Uchder dau o’r tyrbinau fyddai o 200 medr ar y mwyaf, a byddai’r saith arall yn 180 medr.

Y bwriad yw lleoli’r safle i’r de-orllewin o Gorwen ac i’r gogledd-ddwyrain o’r Bala.

Mae’r cwmni hefyd wedi rhyddhau ffotograffau o sut gall y fferm wynt arfaethedig ymddangos o wahanol ardaloedd.

Golygfa arfaethedig o Fferm Gaerwen o Landrillo

Cefnogi’r targed o ynni adnewyddadwy yn unig erbyn 2035

Yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol a gynhaliwyd yn 2022, mae’r cwmni wedi lansio’r ymgynghoriad ffurfiol heddiw, fydd ar agor tan Fedi 4 2024.

“Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn casglu gwybodaeth arolwg a gwybodaeth ychwanegol eraill, ac yn mireinio sawl agwedd wahanol o’r cynllun, rydym bellach yn barod i rannu ein cynigion gyda’r cyhoedd er mwyn clywed eu barn a’u hawgrymiadau,” meddai Arfon Edwards, Rheolwr Prosiect RWE sy’n arwain y datblygiad.

“Ar ôl ein cyfnod ymgynghori blaenorol, gwnaethom nifer o newidiadau sydd wedi ein galluogi i wneud y mwyaf o’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir o’r safle hwn.”

“Yn ein Datganiad Amgylcheddol drafft, rydym wedi nodi camau gweithredu i liniaru unrhyw effaith ar rywogaethau a warchodir gan gynnwys adar sy’n nythu ar y ddaear, fe y gyflwynir a rhywogaethau adar hirgroes bridio eraill.”

Yr olygfa arfaethedig o Fryn Melyn ger Llandderfel

Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn 2025.