Ar ôl 14 blynedd o lymder creulon, gallwn ddathlu diwedd camreolaeth drychinebus y Torïaid. Yma yng Nghymru, maen nhw wedi cael eu dileu’n llwyr.
Mae gan Lafur gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ail-lunio’r wlad. Nawr yw’r amser am newid, a thrawsnewidiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol er mwyn sicrhau cymdeithas decach, wyrddach a mwy cyfartal i bawb.
Cyn yr etholiad, ysgrifennais erthygl lle amlinellais ddiffygion difrifol ym maniffesto’r Blaid Lafur. Yn fy marn i, methodd y maniffesto â darparu agenda flaengar, drawsnewidiol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau ffyniant economaidd ac amgylcheddol, a chynaliadwyedd i bobol ac i’r blaned.
Ond nid yw’n rhy hwyr i newid cyfeiriad. Mae gan Keir Starmer y mandad i wneud hyn, ond mae angen iddo fod yn feiddgar a gweithredu nawr. Ar gyfer Cymru, rhaid i hyn gynnwys polisïau sydd yn sicrhau ailddosbarthiad cyfoeth a pwer gwleidyddol fel:
- cyflwyno treth cyfoeth
- buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus
- darparu cyllid teg ar sail anghenion i Gymru
- talu’r £500m sy’n ddyledus i Gymru i ddiogelu’r tomenni glo
- talu’r £1.1bn sy’n ddyledus i Gymru ers gadael yr Undeb Ewropeaidd
- talu’r £4bn sy’n ddyledus i Gymru oherwydd HS2
- diogelu, parchu ac ymestyn datganoli yn unol ag argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (sydd eisoes wedi’u derbyn gan Lywodraeth Cymru).
Os bydd Llafur y Deyrnas Unedig yn methu â newid cyfeiriad, mae’r blaid yn wynebu dyfodol ansicr ac rydym mewn perygl o weld ymchwydd pellach mewn cefnogaeth i’r dde eithafol. Dylai’r posibilrwydd yma ddychryn pawb.
Trwy gymryd golwg fwy manwl ar ganlyniadau’r etholiad, mae’n ymddangos bod y dystiolaeth yn cadarnhau fy mhryderon. Ar y wyneb, mae canlyniad yr etholiad yn fuddugoliaeth enfawr i Lafur. Ond wrth gloddio ychydig yn ddyfnach, gwelwn fod eu llwyddiant ar dir sigledig, sydd yn amlygu diffygion y system etholiadol ‘y cyntaf i’r felin’ yn fwy nag erioed.
Enillodd Llafur y Deyrnas Unedig yr etholiad gydag ychydig dros draean o’r bleidlais – y gyfran isaf o’r bleidlais i blaid fuddugol yn hanes etholiadau. A dioddefodd Llafur yng Nghymru ostyngiad o 4% yn ei chyfran o’r bleidlais, gan ennill ei 27 o seddi ar ddim ond 27% o’r bleidlais.
Ac roedd yna ostyngiad yn y nifer a bleidleisiodd yng Nghymru, gyda dim ond 56% o’r etholwyr yn pleidleisio, i lawr o 67% yn 2019 a 69% yn 2017.
Ac ar lefel etholaethol, mae’r nifer a bleidleisiodd yn amlygu’r diffyg democrataidd yng Nghymru hyd yn oed yn fwy, gyda llai na 50% o’r etholwyr yn pleidleiso mewn pedair ardal (Rhondda ac Ogwr: 48%; Gorllewin Abertawe: 48%; Merthyr Tudful ac Aberdar: 47%; Gwent a Rhymni: 43%).
Roedd yr etholiad yn ymwneud gymaint â chwymp y Torïaid ag yr oedd yn ymwneud â buddugoliaeth i Lafur, ac yma yng Nghymru y blaid dde eithafol Reform gafodd y budd mwyaf o golledion y Torïaid – hanerwyd cyfran pleidlais y Torïaid i ddim ond 18%, tra enillodd Reform 17% o gyfran y bleidlais – sydd bron yn drosglwyddiad uniongyrchol o’r naill i’r llall.
Mae llwyddiant parhaus Llafur, felly, yn fregus iawn a dylai’r dewis arall ein dychryn ni i gyd. Mae’r dde eithafol yn ymchwyddo, nid yn unig yma yn y Deyrnas Unedig, ond ar draws y byd Gorllewinol, wrth bedlera eu gwleidyddiaeth o gasineb, a beio ymfudwyr am y problemau gaiff eu hachosi gan neoryddfrydiaeth.
Mae pobol Cymru eisiau trawsnewidiad a fydd yn rhoi diwedd ar dlodi, anghydraddoldeb a dioddefaint, ac yn darparu sicrwydd ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. Yn y chweched genedl gyfoethocaf yn y byd, mae hyn yn gyraeddadwy. Ond mae angen dewrder gwleidyddol.
Nawr yw’r amser i luoedd blaengar yng Nghymru gydweithio, gan gymryd eu harweiniad gan Ffrainc, i wthio’r gweinyddiaethau Llafur ar lefel y Deyrnas Unedig a Chymru i gyflwyno polisïau sosialaidd sy’n rhoi gobaith a gweledigaeth i bobol am gymdeithas fwy caredig, cyfartal, gwyrdd a goddefgar.
Ar yr un pryd, rhaid cydweithio gyda phobol Cymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u hanghenion yn cael eu diwallu, a’u bod hwythau hefyd yn rhan o’r mudiad hwn i newid ein cymdeithas er budd y mwyafrif.
Rhaid adeiladu mudiad sy’n cynnwys pobol a chymunedau ledled Cymru. Adeiladu cymdeithas sy’n rhoi pobol cyn elw, hynny yw i’r llawer nid yr ychydig, yma yng Nghymru ond hefyd, fel rhyngwladolwyr, ledled y byd.