Nid yw cael arian ychwanegol i wneud gwaith atgyweirio ar y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol yn newid aniscrwydd sefyllfa’r sector, medd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru.
Mae’r cyllid yn rhan o £3.7m o arian sy’n cael ei glustnodi ganddyn nhw i “sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu”.
Yn ôl Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol dwys ac wedi gweithredu i wella’r sefyllfa.
Ym mis Rhagfyr 2023 cafodd yr Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol wybod eu bod nhw’n cael gostyngiad o 10.5% yn eu cyllid.
Dywedodd yr amgueddfa y byddai’r toriad yn £3m tra bod y llyfrgell yn Aberystwyth wedi dweud eu bod nhw’n colli £1.3m.
‘Sefyllfa ansicr’
Dywed Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, y bydd ei phlaid yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i “fuddsoddi’n briodol yn y sectorau diwylliant, treftadaeth a chelfyddydau”.
“Tra yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw am gyllid cyfalaf ychwanegol i wneud gwaith atgyweirio brys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac amgueddfeydd ac archifau lleol ac annibynnol, rhaid i hyn fod yn gam cyntaf tuag at sicrhau bod ein sefydliadau diwylliannol yn cael adnoddau priodol i ofalu am ein casgliadau cenedlaethol,” meddai Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant.
“Wedi’r cyfan, nid arian newydd yw hwn, ond yn hytrach arian ag ail-bwrpaswyd o rywle arall o fewn y gyllideb sy’n golygu na fydd datblygiadau eraill yn mynd yn eu blaenau mwyach.
“Nid yw’r cyhoeddiad hwn yn newid y ffaith bod y sector yn parhau mewn sefyllfa ansicr, heb yr arian i sicrhau swyddi ac arbenigedd sydd eu hangen yn y sectorau hyn.”
‘Dewis treftadaeth cyn mwy o wleidyddion’
Ym mis Ebrill, dywedodd prif weithredwr Amgueddfa Cymru y byddai’n rhaid cael gwared ar o leiaf 90 o swyddi, ond dydy’r union ffigwr heb gael ei ryddhau.
Yn ôl yr amcangyfrifon, mae angen £90m ar saith safle Amgueddfa Cymru ledled Cymru.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud eu bod yn croesawu’r “arian ychwanegol”.
“Ond mae’r ffaith nad oes mwy o arian yn cael ei gynnig yn hurt wrth gofio bod Llafur yn bwrw ’mlaen â chynlluniau i gyflwyno 36 aelod ychwanegol i Senedd Cymru.
“Pe baem yn gorfod dewis rhwng ariannu’n treftadaeth neu ariannu mwy o wleidyddion, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn dewis ein treftadaeth bob tro.”
‘Helpu i ddiogelu treftadaeth’
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Lesley Griffiths bod “ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n horielau yn rhannau hanfodol o fywyd diwylliannol yng Nghymru a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i’w diogelu hwy a’u casgliadau er budd pobl ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol.
“Bu’n rhaid i ni wneud penderfyniadau a dewisiadau anodd, fodd bynnag, y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw helpu i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol, boed yn fawr neu’n fach, yn genedlaethol neu’n lleol.”