Mae’r Brenin Charles a’r Frenhines Camilla wedi bod yn ymweld â’r Senedd heddiw er mwyn nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r Senedd.

Fel rhan o ddathliadau’r chwarter canrif, mae’r Brenin Charles wedi llongyfarch y sefydliad a’i aelodau am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

Roedd y dathliadau yn y Senedd yn cynnwys perfformiad o ‘Safwn yn y Bwlch’ gan Ysgol Gynradd Treganna a chân gan Mared Pugh-Evans, y Delynores Frenhinol newydd, ynghyd â sawl araith.

Tu allan i’r Senedd, roedd torf fechan o brotestwyr wedi ymgasglu, ynghyd â chefnogwyr.

‘Rhannu eich cariad at y wlad’

Yn Saesneg y rhoddodd y Brenin Charles y rhan fwyaf o’i araith, er iddo ddweud ychydig o eiriau yn Gymraeg.

“Mi rydw i a’r Frenhines yn gorfoleddu i fod efo chi heddiw i nodi’r garreg filltir sylweddol yma yn ein hanes,” meddai.

“Carreg filltir ar siwrne sydd wedi bod yn fraint i mi allu ei rhannu gyda chi.

“Drwy’r siwrne, mae fy mharch ac edmygedd tuag at bobol y tir hynafol hwn wedi dyfnhau gyda phob blwyddyn sydd wedi pasio.

“Ac wrth i ni edrych yn ôl dros y chwarter canrif ddiwethaf yn siwrne hir ein hanes, rwy’n cynnig fy llongyfarchiadau, llongyfarchiadau mawr, am yr oll rydych wedi’i gyflawni.”

Ac yn Gymraeg: “Braint yw cael rhannu eich cariad at y wlad arbennig hon.”

“‘Yma o Hyd’ ddim yn ddigon, beth nesaf?”

Roedd Vaughan Gething i’w glywed yn defnyddio’r Gymraeg ar ambell bwynt yn ei araith yn ystod y dathlu hefyd.

“Mae 1999 yn teimlo fel amser maith yn ôl,” meddai yn Saesneg.

Yn dyfynnu’r Brenin yn ôl yn 1999, dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi dweud bryd hynny bod “Cymru ar fin cael llais sy’n ddilys ac yn egnïol, mewn ffyrdd nad oedd yn bosib cyn hynny”.

“Am y tro cyntaf roedd penderfyniadau a oedd yn ymwneud â Chymru yn cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai yn Gymraeg.

“25 mlynedd wedyn, ac mae datganoli wedi dod yn rhan sefydledig o ffabrig cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig.

“Dyw ‘Yma o Hyd’ ddim yn ddigon, beth nesaf? Y dyfodol a’r hyn sy’n digwydd nesaf yw ein nod drwy’r amser.

“Rhan o’r nod yw sicrhau bod ein sefydliad yn adlewyrchu ac yn cynrychioli holl gymunedau Cymru.

“Fel person du ac arweinydd fy ngwlad, dw i’n gyfarwydd â’r cyfrifoldeb sydd gennym i agor drysau i bobol sy’n edrych fel fi.”

‘Senedd aeddfed’

Bu arweinwyr y gwrthbleidiau, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, yn siarad yn ystod y dathliad hefyd.

“Beth sydd gennym ni yn y siambr hon yw Senedd Cymru, gafodd ei phleidleisio arni gan bobol Cymru,” meddai Andrew RT Davies.

“O’i chamau gyntaf yn 1999, i’r cerdded cyflym dros y degawd nesaf, i’r sbrint efo’r pwerau sydd ganddi nawr.

“Mae hi wedi tyfu’n Senedd sydd yn aeddfed a datblygedig, ac yn un y mae pobol Cymru wedi dweud dro ar ôl tro eu bod nhw eisiau ei gweld, ac yn falch ohoni.”

‘Ysbryd o obaith 1999’

Soniodd Rhun ap Iorwerth bod “ysbryd o obaith ac uchelgais 1999, a’r teimlad o hyder, yn wreiddiol”.

“Mi oedd y Tywysog yn hollol iawn i gyfeirio at gadernid y gwreiddiau oedd yn sail i’n Cynulliad newydd ac i’n hyder newydd ni,” meddai.

“Y gwreiddiau yna sydd wedi’n galluogi, dros y chwarter canrif ddiwethaf, i dyfu, dysgu, a gwella’r modd rydyn ni’n gwasanaethu pobol Cymru.”