Mae cynlluniau i agor ysgol gynradd Gymraeg newydd fel rhan o ddatblygiad tai mawr yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd adroddiad cabinet ar gyfer dydd Mercher, Gorffennaf 17 yn ceisio caniatâd ffurfiol i ddechrau ymgynghoriad ar agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd i blant rhwng tair ac 11 oed fel rhan o ddatblygiad tai Llanilid, ac ar newid iaith Ysgol Gynradd Dolau o ysgol ddwyieithog i ysgol Saesneg.

Y cynllun yw y bydd lle i 480 o blant cynradd a 60 o blant meithrin yn yr ysgol newydd, gydag Ysgol Gynradd Dolau yn dod yn ysgol Saesneg yr un pryd. Byddai cynnydd yng nghapasiti’r ysgol Saesneg i 488 o lefydd cynradd a 63 o lefydd meithrin, hefyd.

Y bwriad yw agor yr ysgol newydd Gymraeg ddim hwyrach na dechrau blwyddyn academaidd 2027.

Fis Ionawr 2016, fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf gymeradwyo cais cynllunio i 1,850 o dai newydd, gofod masnachol, canolfan iechyd, llyfrgell, man awyr agored cyhoeddus ac ysgol gynradd gael eu hadeiladu ar dir yr hen lofa agored Llanharan.

Dywedodd adroddiad y cabinet mai pwrpas yr ysgol newydd oedd sicrhau bod digon o le i blant ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac y byddai’n sicrhau bod ysgol Gymraeg yn yr ardal, fyddai’n arwain at dwf posib yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir.

Ym mis Medi 2018, fe wnaeth y cabinet gymeradwyo ymgynghoriad ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Dolau ac adeiladu estyniad newydd i’r ysgol fel rhan o ddatblygiad tai Llanilid erbyn mis Medi 2021.

Yn sgil oedi gyda’r datblygwr tai, nid oedd hi’n bosib agor yr ysgol newydd mewn pryd.

Ers hynny, maen nhw wedi ailymweld â’r cynnig a’i adolygu, ac mae newid wedi bod i’r cynnig ers i’r ymgynghoriad gwreiddiol gael ei gynnal.

‘Niferoedd disgyblion cyfrwng Cymraeg wedi gostwng’

Mae data’n dangos bod 466 o blant yn mynd i Ysgol Gynradd Dolau ar hyn o bryd, gyda 155 ohonyn nhw’n cael eu dysgu drwy Gymraeg a 311 drwy Saesneg.

Rhwng 2018 a 2023, fe wnaeth nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysg drwy Saesneg yn Ysgol Gynradd Dolau gynyddu 13.1% (36 disgybl), a’r nifer sy’n cael addysg Gymraeg ostwng 4.9% (wyth disgybl).

Roedd yr adroddiad diweddaraf yn dweud bod y data’n dangos yn glir nad yw niferoedd y disgyblion cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol wedi dangos y twf sydd ei angen i gefnogi’r cyngor i gyrraedd eu targedau yn eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Er mwyn cwrdd â’r galw ar gyfer disgyblion yn yr ardal, cynigiwyd y byddai ysgol Gymraeg newydd yn agor ac Ysgol Gynradd Dolau’n dod yn ysgol Saesneg fel bod y cyngor yn cwrdd â dyletswydd statudol i ddarparu digon o lefydd mewn ysgolion.

Dywed y byddai agor ysgol Gymraeg yn yr ardal yn helpu’r cyngor i gwrdd â’u targedau, ynghyd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050.

Yn ôl yr adroddiad, byddai gan yr ysgol newydd amgylchedd addysgu fodern a hyblyg i bob disgybl, ardal fwyta a neuadd fawr a chyfleusterau gwbl hygyrch.

Bydd yr ysgol newydd hefyd yn un sero net, medd yr adroddiad.

Pe bai’n cael ei gymeradwyo wythnos nesaf, byddai’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Medi 9 a Hydref 25.