Mae’r pwysau ar y Prif Weinidog Vaughan Gething wedi cynyddu eto fyth ers i NationCymru ddweud heddiw nad Hannah Blythyn oedd ffynhonnell un o’u straeon.
Wrth siarad â golwg360, dywed ffynhonnell o’r Blaid Lafur ei bod hi “wir yn teimlo fel bod y diwedd y dod nawr” i Vaughan Gething fel Prif Weinidog, er eu bod nhw’n “amheus o ddarogan”.
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol wedi gwadu hynny ers cael ei diswyddo ym mis Mai, a ddydd Mawrth (Gorffennaf 9) dywedodd nad oedd wedi gweld y dystiolaeth a bod y mater wedi effeithio ar ei llesiant.
Dywed y ffynhonnell o’r Blaid Lafur bod “embaras” o fewn y blaid am y sefyllfa mae’r Prif Weinidog ynddi, a bod “pobol methu credu ei fod yn dadlau dros fanylion rhywbeth fel hyn”.
Yn ôl rhaglen Sharp End ITV, mae aelodau’r blaid yn cyfarfod brynhawn heddiw am “away day”, gyda Vaughan Gething yn dweud wrth y rhaglen “wrth gwrs” bod ganddo gefnogaeth ei blaid, cyn dweud wrth y gohebydd ei fod “yn gobeithio bod hi’n mwynhau’r haul”.
Vaughan Gething says "of course" he still has the faith of his party.
His comment comes a day after the First Minister defended his decision to sack former government minister Hannah Blythyn pic.twitter.com/Q8KZ9LVbdx
— Sharp End (@SharpEndITV) July 11, 2024
‘Llywodraeth yn sefyll yn ei hunfan’
Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei bod hi “bron yn amhosib coelio fersiwn y Prif Weinidog o’r digwyddiadau”.
Ar ‘X’, mae Mabon ap Gwynfor, Prif Chwip Plaid Cymru, hefyd wedi cwestiynu crebwyll y Prif Weinidog.
“Yw hyn i gyd yn meddwl bod datganiad Vaughan Gething yn y siambr yn cael ei ddehongli fel celwydd?
“Mi ddaru hyn i gyd ddechrau efo cwestiynau dros grebwyll y Prif Weinidog. Mae’r datblygiad hwn wedi rhwygo unrhyw rith o grebwyll y mae wedi medru’i gynnal.”
Ychwanega llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod nhw’n gofyn unwaith eto i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r holl dystiolaeth oedd yn cefnogi’r penderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn “er lles tryloywder ac er cwrteisi i bobol Cymru”.
“Drwy’r cwbl, mae ganddom ni Lywodraeth sydd yn sefyll yn ei hunfan, ac yn methu cyflawni ar ran pobol Cymru,” meddai.
“O’r nifer uchaf o bobol ar restrau aros y gwasanaeth iechyd, traean o blant Cymru’n byw mewn tlodi, neu’r heriau economaidd i Gymru – mae angen i’r Prif Weinidog wneud y peth iawn ac ymddiswyddo.
“Mae’n hen bryd i’r blaid Lafur roi Cymru yn gyntaf, yn hytrach na’u buddiannau pleidiol cul.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.