Rhian Bowen-Davies yw Comisiynydd Pobol Hŷn newydd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gadeirydd arbenigol ar Adolygiadau Lladdiadau Domestig, a hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Bydd hi’n dechrau’r swydd newydd ym mis Medi, pan fydd cyfnod Heléna Herklots fel Comisiynydd yn dod i ben.

Cafodd y rôl ei sefydlu yn 2008, ac mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobol hŷn.

Ynghyd â hynny, mae’r rôl yn cynnwys herio gwahaniaethu yn erbyn pobol hŷn a hyrwyddo arferion gorau yn y ffordd mae pobol hŷn yn cael eu trin.

Ar ben hynny, bydd gan y Comisiynydd newydd gyfrifoldeb dros adolygu deddfwriaethau sy’n effeithio ar fuddiannau pobol hŷn.

‘Braint ac anrhydedd’

Dywed Rhian Bowen-Davies bod cael cynnig gwneud y gwaith yn “fraint ac anrhydedd”.

“Gan weithio gyda phobol hŷn ac ar eu rhan, rwy’n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb,” meddai.

“Gyda’n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu’r weledigaeth i wneud Cymru’n wlad oed-gyfeillgar.”