Wel, am wythnos arall hollol wallgof yn y Senedd.
Ddydd Sul diwethaf, roedd Vaughan Gething yn croesawu Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, Keir Starmer, i’r Senedd.
Roedd gan y ddau neges am eu gobaith i gydweithio er lles Cymru, ac, yn bennaf, ers lles gweithwyr Tata.
Dylai’r wythnos a fu fod wedi bod yn ryw fath o lap of honour wrth i’r Blaid Lafur ddathlu un o’u canlyniadau gorau yn San Steffan.
Ond ddydd Mawrth, roedd Hannah Blythyn yn y Senedd am y tro cyntaf ers canol mis Mai i adrodd un o’r areithiau mwyaf pwerus mae’r siambr wedi’u clywed, a hynny yn erbyn arweinydd ei phlaid ei hun.
Dywedodd Hannah Blythyn yn glir nad ydy hi wedi rhyddhau unrhyw beth i’r wasg am unrhyw weinidog nag aelod seneddol.
Roedd y datganiad yn glir am yr effaith negyddol mae’r mater wedi’i gael ar ei hiechyd meddwl, a dywedodd bod ganddi “bryderon gwiroineddol nad yw gwersi wedi cael eu dysgu gan y gorffennol”. Gallai hynny fod yn gyfeiriad at yr amgylchiadau’n ymwneud â marwolaeth Carl Sargeant, oedd yn weinidog yn Llywodraeth Cymru, yn 2017.
Ddydd Mercher, tro’r Prif Weinidog oedd hi i ymateb i gwestiwn amserol ar y mater gan Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Fe wnaeth y Prif Weinidog ailadrodd ei farn bod y penderfyniad yr un cywir yn sgil y dystiolaeth sydd ganddo.
Felly, dyna’r sefyllfa ganol yr wythnos, dau fersiwn cwbl wahanol o’r stori.
Wedyn, daeth y cyhoeddiad gan NationCymru ddydd Iau nad Hannah Blythyn oedd ffynhonnell eu stori, a thrafodaeth danllyd rhwng Prif Weinidog a Llŷr Gruffydd, yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, yn y Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog.
Vaughan Gething yn dweud nad ei gyfrifoldeb yw profi honiad arweiniodd at ddiswyddo gweinidog
‘Pa mor hir all y ddrama barhau?’
Mae’n bwysig nodi bod prif amcanion deddfwriaethol y Blaid Lafur wedi’u cyhoeddi’r wythnos yma, ond mae’r sŵn o amgylch y stori hon wedi’u tawelu yn gwbl.
Erbyn hyn, mae’r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt lle mae rhaniadau o fewn y Blaid Lafur yn glir i’w gweld.
Mewn plaid sydd fel arfer yn cadw unrhyw anghytundebau tu ôl i’r llenni, mae’n anghyffredin gweld aelodau’r blaid yn anghytuno yn y siambr – Hannah Blythyn yn ysgwyd ei phen wrth i Vaughan Gething siarad ddydd Mercher a Vikki Howells yn edrych y ffordd arall wrth i Hannah Blythyn siarad. Pa mor hir all y ddrama yma barhau nes bod yna ddatrysiad ar dop y blaid?
Un peth sydd o blaid Vaughan Gething ydy cefnogaeth y blaid yn San Steffan. Mae Keir Starmer a Jo Stevens wedi’i gefnogi drwy gydol yr ymgyrch etholiadol, ac ar ôl cael eu hethol.
Mewn nifer o ffyrdd, mae gan bleidlais wythnos nesaf y gallu i fod yn fwy damniol i Vaughan Gething na’r bleidlais diffyg hyder ar ddechrau mis Mehefin.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno cynnig yn y gobaith o orfodi’r Prif Weinidog i gyflwyno’r dystiolaeth ddydd Mercher.
Pe bai cynnig y Ceidwadwyr yn pasio, efallai y byddai’n rhaid i Vaughan Gething ryddhau’r dystiolaeth o ganlyniad i ran o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sydd yn rhoi’r pŵer i’r Senedd orchymyn Prif Weinidog i ryddhau tystiolaeth sy’n berthnasol i weithredoedd Gweinidogion y llywodraeth.
Mae’n ymddangos mai strategaeth y Prif Weinidog nawr yw goroesi tan ddiwedd y tymor Seneddol yma, sy’n dod i ben ar Orffennaf 25, a gobeithio bod y naratif yn newid erbyn mis Medi.
Ond gydag aelodau o’i blaid ei hun yn ei erbyn, a’r ffaith nad oes ganddo fwyafrif yn y Senedd beth bynnag, mae’n mynd anoddach pasio unrhyw gyllid. Os na fydd y blaid yn gofyn iddo ymddiswyddo, mae’n bosib y daw hi’n amlwg yn yr hydref ei bod hi’n amhosib parhau heb newid arweinydd neu etholiad.