Mae Gŵyl Tafwyl wedi dychwelyd i Gaerdydd unwaith eto’r penwythnos hwn gydag arlwy blasus sy’n dathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg.
Bydd artistiaid gan gynnwys Lloyd, Dom, Don + Sage Todz, Celt, Buddug, Gwilym, HMS Morris, Meinir Gwilym a llawer mwy yn perfformio.
Huw Stephens, Tara Bethan a Lloyd Lewis fydd yn cyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau’r ŵyl heddiw (dydd Sadwrn, 13 Gorffennaf) a fory (dydd Sul) ar S4C am 8pm. Byddan nhw’n sgwrsio gefn llwyfan gyda rhai o’r artistiaid cyn cyflwyno set byw gan Yws Gwynedd am 9pm heno, a’r band Gwilym am 9pm nos fory.
Yn ystod y dydd, bydd modd gwylio ffrydiau byw o lwyfannau Tafwyl ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar S4C Clic, YouTube S4C, S4C Lŵp yn ogystal â Facebook S4C.
Dywedodd Huw Stephens ei fod yn “bleser pur” cael cyflwyno gŵyl gerddorol wych o’i ddinas enedigol.
“Dwi wedi edrych ymlaen at Tafwyl ers y tro diwethaf iddo ddigwydd. Dyma brofiad unigryw i gael gweld perfformiadau newydd a hen mewn un lle ac i allu rhannu hyn ar y teledu gyda phobol na allan’ nhw fod gyda ni yng Nghaerdydd.”
Yn ogystal â’r gerddoriaeth bydd nifer o ddigwyddiadau eraill o gwmpas safle’r ŵyl ym Mharc Bute.
‘Cydraddoldeb yn y cyfryngau’
Ym Mhabell Llais yn Tafwyl heddiw (dydd Sadwrn) am 5yp, bydd sgwrs banel o’r enw ‘Cydraddoldeb yn y cyfryngau: Naratif ni’ gyda’r cyflwynydd teledu Melanie Owen, ac Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywed y ddwy bod “cydraddoldeb a chynrychiolaeth wedi gwella yn y cyfryngau Cymraeg ers 2020, ond mae angen cadw’r momentwm i fynd, a ni sydd angen gyrru’r naratif.”
Mae’r sgwrs banel yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, S4C, ac Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd.
Ar y sgwrs banel bydd Melanie Owen, Ciaran Fitzgerald (cyfres Bwmp, S4C) a’r newyddiadurwraig Lena Mohammed. Bydd y sgwrs banel yn cael ei gadeirio gan Emily Pemberton.
Pabell y Dysgwyr
Draw ym Mhabell y Dysgwyr bydd Pegi Talfryn, yr awdur, tiwtor Cymraeg gyda Popeth Cymraeg a cholofnydd Lingo360 yn trafod ei llyfr newydd i ddysgwyr Rhywun yn y Tŷ heddiw rhwng 12 a 12.45pm. Mae’r llyfr yn addas i ddysgwyr lefel Mynediad+ a bydd Pegi ar gael i ateb eich cwestiynau.
Bydd gan Joshua Morgan o Sketchy Welsh stondin yn Tafwyl hefyd. Mae Joshua yn un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni ac mae ei ddarluniau wedi helpu dysgwyr i ddysgu’r iaith.
Ac os ydach chi eisiau cael blas ar gwmni Cymreig, fe fydd gan David Thomas ac Anthony Rees o Jin Talog yn Sir Gâr stondin ym mhabell Arfor. Mae Arfor yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Rhywbeth at ddant pawb felly!