Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. David Thomas, sy’n rhedeg cwmni Jin Talog gyda’i bartner Anthony Rees, sy’n agor y drws i’w cartref, hen ffermdy Rhyd y Garreg Ddu, yn Nhalog, Caerfyrddin yr wythnos hon. Roedd David Thomas wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 2021 ac mae bellach yn astudio ar gyfer MA yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhyd y Garreg Ddu oedd enillydd rhaglen y BBC, Wales’ Home of the Year y llynedd…  


Anthony a David yn y lolfa

Roedden ni’n byw yn Llundain am flynyddoedd cyn dod ’nôl i Sir Gâr. Mae Anthony yn dod o Sir Gâr yn wreiddiol ac roedden ni moyn byw rhywle gwledig – ac ro’n i mor benderfynol o ddysgu Cymraeg. Wnaethon ni brynu bwthyn bach yng Nglan y Fferi ger Caerfyrddin ond y bwriad gwreiddiol oedd prynu darn o dir ac adeiladu tŷ newydd sbon ond roedd yn amhosib dod o hyd i rywbeth addas. Roedden ni moyn prynu fferm fach efo tipyn o dir er mwyn cadw anifeiliaid a wnaethon ni ddigwydd ffeindio’r lle yma drwy ddamwain. Doedden ni erioed wedi clywed am Talog ond y funud wnaethon ni yrru mewn i’r buarth wedes i wrth Anthony: ‘mae’n rhaid i ni brynu’r lle ’ma’. Felly nawr, bob tro mae rhywbeth yn mynd o’i le, fi sy’n cael y bai!

Y lle tân ger y gegin

Wnaethon ni brynu Rhyd y Garreg Ddu yn 2015 ond wnaethon ni ddim symud mewn hyd nes y gwanwyn 2016. Roedd angen adnewyddu’r tŷ yn gyfan gwbl. Mae’n hen dŷ  fferm gafodd ei adeiladu tua 1851 ac roedden ni eisiau cadw’r pethau gwreiddiol fel y lloriau llechi. Mae’n edrych yn hollol draddodiadol o’r tu allan ond tu fewn ‘dyn ni wedi ychwanegu estyniad modern ac mae’r golau yn llifo drwy’r llawr gwaelod nawr. Mae fel bod y tŷ wedi dod yn fyw eto.

Y gegin ydy calon y tŷ – roedd y cwpl yn awyddus i gadw’r nodweddion gwreddiol fel y lloriau llechi

Y cynllun oedd treulio’r rhan fwyaf o’n hamser yn yr estyniad ond rhaid cyfaddef mai’r gegin ydy calon y tŷ. Er bod swyddfa ‘da ni dw i’n tueddu i weithio fel arfer ar bwys yr Aga, ac mae Anthony yn hoffi coginio, mae’n gogydd rili da felly rydan ni yn y gegin rhan fwya’ o’r amser. Mae’r ci wastad ar bwys yr Aga hefyd.

Mae hen waliau trwchus yn y gegin ac rydan ni wedi ailbeintio gweddill y gegin yn ddu. Mae wedi bod yn benderfyniad eitha’ dadleuol. Mae sawl ffrind yn casáu’r lliw tywyll ond mae’n eitha’ dramatig a bod yn onest.

Y guerrero death mask o Fecsico

Rydan ni’n hoff iawn o deithio ac wedi casglu lot o bethau ar ein teithiau – prynon ni guerrero death mask ym Mecsico sy’n eitha’ dramatig ac rydan ni’n casglu llawer o gelf Gymreig.  Mae llun Kyffin Williams gwreiddiol yn yr ystafell wely ac rydan ni wedi bod yn casglu gwaith yr artist Adam Taylor, sydd wedi dod yn hynod o boblogaidd, a Zena Blackwell. ‘Dyn ni’n hoffi cefnogi artistiaid o Gymru – mae jest yn ychwanegu rhywbeth at y tŷ.

Mae’r gwaith celf gan artistiaid o Gymru yn ychwanegu at y tŷ, meddai David
Mae Anthony yn hoff o gasglu Crochenwaith Llanelli gan ei fod yn dod o’r ardal yn wreiddiol

Mae Anthony yn dod o Lanelli yn wreiddiol felly roedd e wedi penderfynu casglu Crochenwaith Llanelli fel rhyw fath o gysylltiad efo’i hanes. Mae sawl darn ‘da ni nawr – cymysgedd o bethau traddodiadol efo sawl peth mwy cyfoes. Fy hoff gadair ydy’r gadair Eames yn yr estyniad efo foot stool – mae’n lle delfrydol i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd dros y cwm, er does dim llawer o amser i wneud hynny ar hyn o bryd!

Y gadair Eames yn yr estyniad newydd – y lle perffaith i fwynhau’r olygfa
Y poster ar gyfer lansiad y llyfr Brittle with Relics: A History of Wales gan Richard King

Dw i’n hoff iawn o’r llyfr Brittle with Relics: A History of Wales gan Richard King a phan gafodd ei lansio argraffwyd posteri i hysbysebu’r llyfr. Mae’r poster gynnon ni yn y gegin – roedd wedi costio £4 ond roedd y ffrâm yn £200 – unrhyw bryd ni’n prynu rhywbeth, mae Anthony yn gorfod newid y ffrâm!

Ni wedi ffeindio ein milltir sgwâr. Ni’n gwneud y jin, cadw defaid, a byw bywyd cefn gwlad delfrydol. Ond ‘dyn ni hefyd yn byw mewn cymuned glos iawn ac wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd. Mae wastad pethau yn mynd mlaen yn neuadd y pentre’ a dw i’n helpu mas efo’r Clwb Clonc lleol sy’n helpu dysgwyr i siarad Cymraeg.

Y lolfa ger y gegin lle mae David ac Anthony wedi cyfuno’r hen a’r newydd

Beth sy’n gwneud i Rhyd y Garreg Ddu deimlo fel cartref ydy ein bod ni wedi cynllunio’r lle i ni. Mae digon o le i groesawu pobl a ‘dyn ni’n hoff iawn o gael ffrindiau a theulu yn ymweld â ni ond mae’r tŷ wedi’i gynllunio i ni.

Yr ystafell ymolchi – “does dim llenni achos does dim cymdogion yn agos i ni!”

Fe fydd gan Jin Talog stondin ym mhabell Arfor yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd ddydd Sul, 14 Gorffennaf.