Rhif yr emyn nesa’ yw 735. Cyfieithiad Ben Davies o eiriau mawr Norman MacLeod (sgroliwch lawr i waelod y dudalen i weld y geiriau).
Awdur y geiriau fydd echel y golofn yr wythnos hon. Roedd yr hen Victoria yn hoffi MacLeod – roedd yn bregethwr cyson yn eglwys Crathie ger Balmoral, a bu’n asbrin i ysbryd y frenhines wedi marw Albert.
Darllenais ei gofiant yn ddiweddar – roedd Norman MacLeod yn athrylith o weinidog. Yn ei gyfnod yn Glasgow, cyflawnodd waith anferthol gyda’r tlawd, gan ddarparu yn eglwys ei ofal – a thrwyddi – addysg, gofal meddygol, banc, a chartref i blant amddifad er mwyn eu cadw rhag y wyrcws.
Safodd yn erbyn llif y farn gyhoeddus sawl gwaith – rebel ydoedd mewn gwirionedd. Ni fu erioed fwy o angen am y rebel crefyddol. O! Am weld y maverick yn camu allan o’r rhengoedd siwmperog! Deallodd MacLeod mai help i ffydd yw crefydd i fod – asgell, nid cawell. Un o nodweddion crefydd oes Victoria oedd gofalu am y tlawd, wrth gadw’r tlawd hyd braich – gofal o bell oedd gofal yr eglwysi (nodweddion ddoe yw nodweddion heddiw i raddau helaeth; ydy’r Ysbryd yn ysgrifennu â dŵr tybed?!). Yn yr hinsawdd grefyddol honno, mynnodd MacLeod gynnal oedfaon dillad gwaith; nid oedd yn rhaid wrth ddillad parchus, trwsiadus du. Yn ei ddyddiadur ym mis Mawrth 1857, ysgrifennodd:
I began four weeks ago my sermons to working men and women in their working clothes, excluding all who had clothes fit for church. And by God’s mercy I have crammed the church with such. This is grand.
Roedd parchu’r Sabath yn bwysig iawn hefyd i grefydd ei gyfnod. Yn 1865, dechreuodd trenau redeg yn gyson rhwng Glasgow a Chaeredin ar y Sul. Cafodd llythyr ei ddanfon gan Eglwys yr Alban i bob gweinidog, gyda’r gorchymyn y dylid darllen y llythyr oedd yn condemnio teithio ar y Sul yng nghlyw’r gynulleidfa. Bu MacLeod yn ufudd i’r gorchymyn enwadol – wel, i raddau. Darllenodd y llythyr, ac yna meddai wrth ei gynulleidfa syn ei fod yn anghytuno’n sylfaenol gyda’r cynnwys, gwrandewch:
Strict Sabbatarianism will multiply the dishonesties and pharisaic sophistries which will prove detrimental to the faith we hold. So, I want to defend the Lord’s Day not the Sabbath. The Sabbath was buried in the grave when Christ rose from it.
Yng Nghymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban yn 1859, safodd yn erbyn llif dirwest. Roedd cynnig gerbron mai’r unig ffordd i atal meddwdod oedd trwy lwyr ymwrthod. Cododd ar ei draed, gan ddatgan bod y sawl oedd yn gwthio’r fath syniad yn fwy llym na’r Bod Mawr – “shall we be less liberal than God?”
Cafodd yr emyn 735 ei ysgrifennu, yn ôl pob sôn, i gwmni o ddarpar weinidogion yn Llundain, ond mae stori arall sy’n llawer mwy diddorol. Cafodd y geiriau eu hysgrifennu i gyfaill o weinidog oedd o dan lach ei enwad am ganiatáu i leygwr (heb drwydded bregethu) i bregethu yn ei bulpud! Dychmygwch! Er cywilydd.
Roedd yr emyn gwreiddiol yn cynnwys pennill ychwanegol, nad yw yn yr un llyfr emynau, gwaetha’r modd. Tueddwn i weld y geiriau ar ffurf penillion pedair llinell, yn hytrach na’r wyth llinell sydd gennym ni yn Caneuon Fydd.
Mae’r pennill coll – i mi, o leiaf – yn amlwg berthnasol i’n cyfnod o etholiadau cyffredinol, a chynadledda enwadol. Credaf fod y geiriau’n gic solet yn ein tinau:
Trust no party, church or faction,
Trust no leaders in the fight.
But in every word and action
Trust in God and do the right.
Bydd yn wrol, paid â llithro,
er mor dywyll yw y daith
y mae seren i’th oleuo:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Er i’r llwybyr dy ddiffygio,
er i’r anial fod yn faith,
bydd yn wrol, blin neu beidio:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Paid ag ofni’r anawsterau,
paid ag ofni’r brwydrau chwaith;
paid ag ofni’r canlyniadau:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Cei dy farnu, cei dy garu,
cei dy wawdio lawer gwaith;
Na ofala ddim am hynny:
cred yn Nuw a gwna dy waith.
Norman McLeod (1812-72)
Courage, brother, do not stumble
cyf. Ben Davies (1864-1937)