Bydd pum cerbyd yn gadael Cymru ddydd Iau (Gorffennaf 18) er mwyn cludo nwyddau i Wcráin.
Ymhlith yr unigolion fydd yn teithio i’r wlad mae’r gwleidyddion Alun Davies a Mick Antoniw, dau Aelod Llafur o’r Senedd, a Wayne Thomas, Dirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
Dyma fydd y nawfed taith yn rhan o’r ymgyrch ‘Senedd dros Wcráin’, sydd wedi anfon 25 o gerbydau llawn nwyddau a £1m o gymorth dyngarol i’r rheng flaen.
‘Angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed’
“Fel rydyn ni wedi’i weld mewn adroddiadau newyddion niferus, mae rhyfel anghyfreithlon Putin yn dal i dargedu sifiliaid, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai plant,” meddai Mick Antoniw, yr Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd.
“Mae’n golygu bod angen ein cefnogaeth ar Wcráin yn fwy nag erioed.
“Rhaid atal Putin, a thrwy gyflenwi cymorth yn uniongyrchol i luoedd rheng flaen Wcráin, mae’r fenter ‘Senedd dros Wcráin’ yn gwneud gwahaniaeth.”
‘Diolch’
“Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys unigolion, undebau llafur a busnesau sydd wedi rhoi mor hael i’n hymgyrchoedd codi arian; ac i’r sawl sydd wedi rhoi cyflenwadau meddygol a cherbydau,” meddai Mick Antoniw wedyn.
“Dw i’n derbyn adroddiadau rheolaidd gan filwyr yn Wcráin sy’n dweud wrtha i pa mor bwysig yw nwyddau megis bwyd, meddyginiaethau a dillad, ac yn gofyn i fi ddiolch i bobol Cymru am eu haelioni ar eu rhan nhw.
“Mae’r adroddiadau weithiau’n cynnwys lluniau o gerbydau sydd wedi’u rhoi ac sy’n weithredol fel ambiwlansys maes.
“Mae pob cymorth y gallwn ni ei roi yn gwneud gwahaniaeth.”