Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect mawr yng nghanol dinas Wrecsam, sydd â’r nod o greu Amgueddfa Dau Hanner, sef amgueddfa newydd i Wrecsam ar y cyd ag Amgueddfa Bêl-droed i Gymru.
Mae’r buddsoddiad o £2.7m ar gyfer yr amgueddfa yn rhan o fuddsoddiad ehangach dan y Loteri Genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r adeilad ar Stryd y Rhaglaw yn gartref i Amgueddfa Wrecsam ar hyn o bryd, a bydd y buddsoddiad yn golygu adnewyddu’r amgueddfa honno yn ogystal â phrosiect Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol newydd i Gymru.
Mae’r amgueddfa’n plethu hanes cyfoethog Wrecsam â’i rôl ganolog yn natblygiad pêl-droed yng Nghymru.
Dathliad o bêl-droed Cymru
Bydd yr amgueddfa’n dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, o lawr gwlad hyd at y gêm ryngwladol.
Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed yn cynnwys crysau ac eitemau allweddol yn hanes y gamp yng Nghymru, ac yn rhoi sylw i Wrecsam fel man geni pêl-droed Cymru.
Bydd yn gartref i arddangosfa barhaol o gasgliad pêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers 24 mlynedd, a bydd y casgliad hwnnw’n cofnodi dros 4,000 o flynyddoedd o hanes.
Yn rhan o’r casgliad hefyd fydd crys gêm gyntaf John Charles, un o gewri pêl-droed Cymru, yn erbyn Iwerddon ym mis Mawrth 1950, yn ogystal â chap gafodd ei gyflwyno i Billy Meredith.
Hefyd, bydd casgliad yn ymwneud â buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 1927, ac amrywiaeth o raglenni gemau rhyngwladol dynion Cymru, a’r cynharaf ohonyn nhw’n dyddio’n ôl i 1901.
Prosiect o bwysigrwydd cenedlaethol yn troi’n realiti
Dywed y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam, fod “prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi cyrraedd carreg filltir arall ar ei daith i greu amgueddfa bêl-droed i Gymru ac amgueddfa newydd i Wrecsam.
“Mae’n wych gweld yr adeiladwyr ar y safle, ac yn hynod gyffrous gweld y prosiect hwn o bwysigrwydd cenedlaethol yn symud oddi ar y bwrdd darlunio a dod yn realiti,” meddai.